Mae tair o bob pum nyrs (60%) wedi profi aflonyddu rhywiol yn y gwaith, yn ôl arolwg gan UNSAIN a Nursing Times.

Cymerodd dros 2,000 o staff nyrsio a myfyrwyr ran yn yr ymchwil, gan ddweud bod staff wedi’u targedu gan gleifion, teulu a ffrindiau’r rhai yn eu gofal, a’u cydweithwyr.

Dywedodd rhai bod disgwyl iddynt ymdopi â’r math yma o ymddygiad oherwydd ei fod yn cael ei ystyried yn “rhan o’r swydd”, tra bod nifer yn dweud ei fod yn digwydd mor aml fel ei fod wedi dod yn “normal”.

Roedd yr aflonyddu mwyaf cyffredin ar lafar gan ddigwydd i dros hanner (56%) y staff a gymerodd ran yn yr arolwg, gan gynnwys sylwadau am eu hymddangosiad, cwestiynau am fywydau preifat neu jôcs amhriodol.

Mae 37% wedi profi digwyddiadau corfforol, gan gynnwys cael eu ‘gropio’ gan gleifion a chael cydweithwyr yn cyffwrdd ynddynt.

Dywedodd 58% o’r rhai a gafodd eu haflonyddu mai claf oedd yn gyfrifol, 26% gan gydweithwyr, tra bod cyfran debyg, 24%, gan gydweithwyr nyrsio eraill a 19% wedi cael eu haflonyddu gan deulu a ffrindiau cleifion.

Roedd yno achosion o aflonyddu rhywiol waeth beth oedd rhyw y nyrsys, gyda 62% o ymatebwyr benywaidd wedi’u haflonyddu, tra bod 51% o staff nyrsio gwrywaidd yn dweud iddynt gael eu haflonyddu.

‘Brawychus’

Dywedodd Steve Ford, Golygydd y Nursing Times: “Dyw aflonyddu rhywiol mewn lleoliadau iechyd a gofal ddim yn cael y sylw y mae’n ei haeddu.

“Y pryder yw ei fod wedi’i ‘normaleiddio’ – rhywbeth y mae’n rhaid i nyrsys ei ddioddef fel rhan o’u bywydau gwaith bob dydd.

“Yn frawychus, ni wnaeth bron i dri chwarter y rhai a gafodd eu haflonyddu roi gwybod i’w cyflogwr am y digwyddiadau.

“Mae’r canfyddiadau hyn yn peri pryder mawr. Rhaid i’r arolwg hwn fod yn fan cychwyn i newid.

“Ni ddylid disgwyl na chaniatáu i staff nyrsio oddef aflonyddu rhywiol. Digon yw digon.”