Nid oes yr un marwolaeth yn gysylltiedig gyda Covid-19 wedi eu cofnodi yng Nghymru dros y naw diwrnod diwethaf.

Dyna’r ffigyrau diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn ôl y Prif Weinidog, Mark Drakeford.

Ond rhybuddiodd yng nghynhadledd i’r wasg Llywodraeth Cymru heddiw (ddydd Gwener, Mehefin 6) nad yw’r feirws wedi diflannu.

Mae’r ffigyrau diweddaraf yn golygu fod y nifer sydd mewn ysbytai gyda’r haint yng Nghymru ar ei lefel isaf ers dechrau’r pandemig, meddai.

Ond pwysleisiodd fod y Gwasanaeth Iechyd yn dal i fod yn “eithriadol o brysur” wrth geisio dal i fyny gyda thriniaethau gafodd eu gohirio yn ystod y pandemig.

Amrywiolyn Delta

Cyn y gynhadledd, cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod yna 97 achos o’r amrywiolyn Delta wedi eu cadarnhau yng Nghymru.

Dywedodd Mark Drakeford bod y “rhan fwyaf” o’r 97 o bobol “wedi cael eu brechu yn barod”.

Mae tua hanner yr achosion hyn yn Sir Conwy, tra bod dau achos wedi eu cadarnhau ym Mhorthmadog.

Ychwanegodd Mark Drakeford fod amrywiolyn Delta wedi datblygu i fod yr un mwyaf cyffredin o’r achosion sydd wedi eu cofnodi yn Lloegr a’r Alban.

“Os yw’r patrwm yna’n parhau, ni fyddwn yn ddiogel rhagddo yma yng Nghymru,” rhybuddiodd.

“Eisoes rydym wedi cofnodi 97 o achosion yng Nghymru ac fe fydd yna ragor.

“Byddwn yn annog pawb yn y cymunedau hyn o ddod ymlaen am brawf.”

Fodd bynnag, nid oes yna unrhyw gynlluniau i wahardd pobol ble mae lefelau uchel o coronofeirws yn Lloegr rhag dod i Gymru.

Aeth ymlaen i ddweud nad oes tystiolaeth bendant fod yr amrywiolyn yn lledu ar lefel gymunedol.

“Mae mwyafrif clystyrau’r amrywiolyn newydd yn glystyrau agos ble mae timau iechyd cyhoeddus yn cofnodi cysylltiadau yn fanwl, wedi eu holrhain ac yn gwybod beth mae pobol yn ei wneud.

“Clwstwr Conwy yw’r un fwyaf. Rydym wedi gweld esiamplau yno o bobol yn dal y feirws mewn ysgolion ac yn y gweithle.

“Mae hyd at 300 o bobl yn hunan-ynysu o ganlyniad, ond does gennym ni ddim tystiolaeth bendant ei fod yn lledu ar lefel gymunedol.”

Llacio 

Cadarnhaodd Mark Drakeford gamau nesaf Llywodraeth Cymru wrth lacio cyfyngiadau’r coronafeirws.

Wrth symud yn raddol at rybudd lefel 1, bydd y cam cyntaf, a fydd yn digwydd ddydd Llun 7 Mehefin, fel a ganlyn:

  • Hyd at 30 o bobl i gael cyfarfod yn yr awyr agored, gan gynnwys mewn gerddi preifat, lletygarwch awyr agored a mannau cyhoeddus.
  • Caniatáu digwyddiadau mwy, fel cyngherddau, gemau pêl-droed a gweithgareddau chwaraeon (fel grwpiau rhedeg) yn yr awyr agored, a hynny gyda hyd at 4,000 o bobl yn sefyll neu 10,000 o bobl yn eistedd.
  • Bydd modd cynyddu maint aelwydydd estynedig i hyd at dair aelwyd, a bydd aelwyd arall sydd ag un oedolyn neu un oedolyn â chyfrifoldebau gofalu yn cael ymuno â’r aelwyd hefyd.

Bydd Llywodraeth Cymru yna’n ystyried newidiadau pellach i’r rheoliadau ar weithgareddau o dan do yn ddiweddarach yn y mis, os bydd amodau iechyd y cyhoedd yn caniatáu, gan gynnwys y canlynol:

  • Y rheol chwech o bobl ar gyfer cwrdd o dan do mewn cartrefi preifat a llety gwyliau.
  • Cynyddu’r niferoedd a ganiateir ar gyfer digwyddiadau o dan do a chynulliadau wedi’u trefnu o dan do.
  • Agor canolfannau sglefrio iâ.

“Wrth gwrs mae yno lot o bethau positif am y sefyllfa yng Nghymru,” meddai Mark Drakeford.

“Ond dyw hynny (symud yn gyfan gwbl i lefel 1 ddydd Llun) ddim yn risg rwy’n fodlon ei gymryd.

“Y rheswm am hynny, a pheidio symud yn gyfan gwbl i Lefel Un yw’r amrywiolyn newydd.

“Rydym am ddisgwyl tair wythnos i gael casglu tystiolaeth bendant ac yn adolygu’r sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd eto cyn 21 Mehefin.

“Erbyn 21 Mehefin, bydd 90,000 yn fwy o bobol wedi cael eu dos cyntaf o’r brechlyn a 180,000 yn fwy wedi cael dau ddos.”

Dywedodd eu bod wedi canolbwyntio ar lacio cyfyngiadau digwyddiadau awyr agored yn y lle cyntaf “gan fod y dystiolaeth yn awgrymu bod y risg i gael eich heintio rhwng 15 a 20 gwaith yn is nag ydyw o dan do.”

Dim marwolaethau Covid-19 wedi eu cofnodi yng Nghymru ers naw diwrnod

Ond rhybudd bod 97 achos o’r amrywiolyn Delta wedi eu cadarnhau yng Nghymru
Baner Portiwgal

Drakeford: Dylai’r DU wedi aros yn hirach cyn rhoi Portiwgal ar y rhestr werdd

‘Gwn y bydd … yn her sylweddol iawn nawr i bobl sydd eisoes ar wyliau yno i wynebu cwarantin pan fyddant yn dychwelyd’ – Mark Drakeford

Drakeford: ‘Dim cynlluniau i wahardd pobol o ardaloedd uchel o coronofeirws yn Lloegr rhag dod i Gymru’

Dywedodd byddai ceisio cau y ffin gyda Lloegr eto yn rhy “anodd” ac yn “fesur rhannol ar y gorau”.