Nid oes yna unrhyw gynlluniau i wahardd pobl ble mae lefelau uchel o coronofeirws yn Lloegr rhag dod i Gymru.

Dyna a ddywedodd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford y bore yma.

Dywedodd byddai ceisio cau y ffin gyda Lloegr eto yn rhy “anodd” ac yn “fesur rhannol ar y gorau”.

Dywedodd Mr Drakeford wrth asiantaeth newyddion PA: “Hyd yn oed pan gaewyd ein ffin gyda Lloegr, fe wnaeth miloedd o bobl groesi’r ffin bob dydd am resymau gafodd eu caniatáu yn y gyfraith.

‘Ymarferol’

“Yn ail, pan oeddem mewn sefyllfa lle’r oedd Lloegr gyfan mewn sefyllfa anos na Chymru, o leiaf at ddibenion plismona a oedd yn gymharol syml.

“Mewn byd ymarferol, sut fyddai heddwas yn gwybod a oedd rhywun yn croesi dros y ffin yn dod o fan poblogaidd yng ngogledd-orllewin Lloegr, neu’n dod i Gymru o ran o Loegr lle nad oedd problem sylweddol?

“Mewn ystyr ymarferol mae’n llawer anoddach cymryd y camau hynny ar hyn o bryd. Am yr holl resymau hynny dydyn ni ddim yn meddwl mai dyma’r ateb cywir.”

Dywedodd Mr Drakeford mai cyngor Llywodraeth y DU ei hun i bobl mewn mannau lle ceir problemau yn Lloegr oedd peidio â theithio i mewn neu allan ohonynt a’i fod yn “hapus iawn i atgyfnerthu’r neges honno”.