Nid problem i’r Cymry Cymraeg yn unig yw’r argyfwng tai haf – dyma mae cynghorydd o Bowys wedi’i bwysleisio.

Dros y misoedd diwethaf mae cryn drafod wedi bod am yr her mae ail gartrefi yn ei beri i gymunedau’r Fro Gymraeg, ac mae ffocws mawr wedi bod ar Wynedd.

Ond mae sawl sir arall hefyd wedi eu heffeithio, ac mae Elwyn Vaughan, cynrychiolydd ward Glantwymyn ar Gyngor Sir Powys, yn eiddgar i dynnu sylw at yr heriau yn ei sir yntau.

Ym Mhowys, meddai, mae’n effeithio hefyd ar gymunedau nad ydynt â chanran uchel o siaradwyr Cymraeg.

Ac mae’r cynghorydd, sydd yn arweinydd grŵp Plaid Cymru ar y cyngor, yn credu bod angen cydnabod nad problem i’r Gymru Gymraeg yn unig yw tai haf.

“[Trwy gydnabod hyn rydych yn] chwalu’r ddelwedd yma, mae rhai yn trïo creu, mai jest cenedlaetholwyr Cymraeg sydd yn cwyno,” meddai wrth golwg360.

“Mewn gwirionedd, fel rydan ni gyd yn gwybod, mae yna sôn am Gernyw, mae sôn am Ardal y Llynnoedd [yn Lloegr] a’r problemau yn yr ardal honno.

“Mae o wir hefyd yn broblem lle dydy’r iaith ddim mor amlwg.

“Yma yng Nghymru bydden i’n tybio bod yr un peth [yn wir] am ardaloedd gwledig ym Mynwy er enghraifft – lle mae prisiau tai yn uchel.

“Ond mae o’n bendant yn wir, dw i’n gwybod, yn ardal y bannau, ardal y ffin – Llanandras, Trefyclo, yr ardal yna. Ac mae’n wir mewn ardal fwy gogleddol – ardal Llanfyllin, ardal Dyffryn Banw.

“[Mae’r ardaloedd yma] yn hwylus i bobol sy’n gweithio yn Amwythig, Croesoswallt, a Gaer ac ati. Felly mae o’n her.”

Yn ôl cyfrifiad 2011 roedd 9.3% o boblogaeth Llanandras (y boblogaeth dros dair oed) yn siarad Cymraeg.

Dyma’r ffigurau am y pentrefi eraill dan sylw: Trefyclo (8.5%), Llanfyllin (34.1%), cymuned Banw (55.6%).

Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod pris cyfartalog tai yng Nghymru wedi codi i £185,431 ym mis Mawrth – cynnydd 11% o gymharu â’r un cyfnod y llynedd.

Hefyd dangosa ffigurau mai £206,656 yw pris cyfartalog tŷ ym Mhowys bellach.

Datrysiadau

Mae Elwyn Vaughan yn credu bod angen “pecyn o fesurau” i fynd i’r afael a’r argyfwng ail gartrefi ym Mhowys, ac mae’n ategu bod angen bod yn “greadigol” wrth ddyfeisio datrysiadau.

Mae’n credu y dylai bod cyfyngiad ar ganran y stoc dai a all fod yn dai haf – felly os bod cap 5% mewn cymuned, fydd dim modd cael mwy o dai haf yn y gymuned honno ar ôl cyrraedd 5%.

Hefyd mae’n credu y dylid gorfodi perchnogion ail gartrefi i fynnu caniatâd cynllunio er mwyn troi cartref yn dŷ haf.

Ar ben y cyfan mae’n credu bod angen mynd i’r afael â’r nam yn y drefn sy’n golygu bod modd cofrestru ail gartref yn fusnesau (ac felly osgoi talu’r dreth cyngor).

Yng Ngwynedd mae camau wedi’u cymryd i osod premiwm treth cyngor o 100% ar ail gartrefi a chartrefi gwag yn y sir. A yw’n cefnogi’r fath gam?

Mae’n egluro bod disgwyl i bremiwm 75% ddod i rym ym Mhowys yn y flwyddyn ariannol nesa’, ac y bydd “hynny yn help”.

Addysg Gymraeg ym Mhowys

Bythefnos yn ôl mi gymeradwywyd cynlluniau i droi ysgol ‘bob oedran’ Ysgol Bro Hyddgen yn ysgol cyfrwng Cymraeg.

Ysgol dwy ffrwd yw hi ar hyn o bryd, ond o Fedi 2022 ymlaen mi fydd yn dechrau trawsnewid yn uniaith Gymraeg.

Mae Elwyn Vaughan yn hapus iawn â’r datblygiad yma, ac mae’n ei gweld yn gam calonogol i’r iaith ym Mhowys. Ond megis dechrau yw hyn, yn ei farn yntau.

“Yn hanesyddol mae Powys wedi bod ar ei hôl hi,” meddai. “A dyna ydy rhan o’r broblem.

“Yn 2011 ac yn 2019, mi feirniadwyd Powys gan Estyn am y diffyg sy’n mynd ymlaen. Mae angen rhwydwaith.

“Hoffwn i weld tair ysgol uwchradd Gymraeg ym Mhowys. A dw i’n meddwl mai dyna yw’r nod a’r weledigaeth dros y blynyddoedd nesaf.”