Nid yw un o lofruddwyr gwaethaf Cymru yn addas ar gyfer cael ei ryddhau o’r carchar, yn ôl bwrdd parôl.

Cafodd Jeffrey Gafoor ei ddedfrydu i oes yn y carchar yn 2003 wedi i dechnoleg DNA ei gysylltu â llofruddiaeth Lynette White, 20, mewn fflat yng Nghaerdydd.

Ym 1998, cafodd Lynette White ei thrywanu dros 50 o weithiau.

Dyweda grynodeb o wrandawiad y Bwrdd Parôl fod cyfyngiadau Covid-19 wedi atal Gafoor rhag “gwneud cymaint o gynnydd ag yr oedd wedi’i obeithio” ers symud i garchar agored y llynedd.

Nid yw Gafoor wedi gallu cael ei ryddhau dros dro yn sgil y pandemig.

Anaddas i’w ryddhau

“Wedi ystyried amgylchiadau ei drosedd, y cynnydd y mae e wedi gwneud yn y ddalfa, a thystiolaethau eraill a gafodd eu cyflwyno yn y ffeiliau, nid yw’r panel yn y fodlon fod Mr Gafoor yn addas ar gyfer ei ryddhau,” meddai’r ddogfen.

“Fodd bynnag, wrth asesu’r buddion a’r peryglon o gadw Mr Gafoor dan amodau agored, mae’r panel yn argymell gwneud hynny.

“Mae e wedi gwneud ymdrech sylweddol i fynd i’r afael â’i elfennau peryglus, ac wedi arddangos cynnydd cyson.

“Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn penderfynu a yw’n derbyn argymhelliad y Bwrdd Parôl nawr.

“Bydd Mr Gafoor yn gymwys am adolygiad parôl arall pan fo’r amser.”

Dychwelyd i’r gymuned yn raddol

Cafodd yr adolygiad wybod nad yw’r gwasanaethau prawf wedi datblygu’r cynllun ar gyfer rhyddhau Gafoor “yn llawn” eto, ond mae’n debyg y bydd yn cynnwys llety â chymorth a chyfyngiadau llym ar ei symudiadau, ei gysylltiadau, a’i weithgareddau.

“Daeth y panel i’r canlyniad nad yw’r cynllun amlinellol hwn yn barod i reoli Mr Gafoor yn y gymuned ar hyn o bryd,” meddai’r ddogfen.

“Fe wnaeth y swyddog prawf gynghori y byddai’n rhaid iddo ddychwelyd yn ôl i’r gymuned yn raddol, gan ei ryddhau dros dro er mwyn caniatáu i Mr Gafoor gael ei brofi’n fanwl, ac i fodloni anghenion y drwydded rhyddhau am oes.”

Clywodd y gwrandawiad fod yr elfennau o risg ar adeg y llofruddiaeth yn cynnwys fod Gafoor yn “colli rheolaeth pan mae’n flin neu’n teimlo dan fygythiad.”

Bu pryderon ynghylch ei lesiant emosiynol hefyd, ac “roedd yn barod i ddefnyddio trais ac arfau, ac nid oedd yn meddwl digon am ei ddioddefwyr”.

Yn ystod ei amser yn y carchar, fe wnaeth Gafoor ddilyn rhaglenni er mwyn mynd i’r afael “â’i allu i wneud penderfyniadau, â ffyrdd gwell o feddwl, a gyda’r tueddiad i ddefnyddio trais”.

“Mwy na lladd”

Cafodd Gafoor ei garcharu am oes, gyda lleiafswm o 13 mlynedd, yn Llys y Goron Caerdydd ym mis Gorffennaf 2003 ar ôl pledio’n euog i lofruddiaeth, a chyfaddef ei fod wedi trywanu Lynette White gyda chyllell dros 50 o weithio yn dilyn ffrae am £30.

Pan gafodd ei ddedfrydu, dywedodd yr erlynydd, Patrick Harrington, ei fod e wedi gwneud “mwy na lladd”.

“Fe wnaeth e ymosod mewn ffordd farbaraidd, gan dorri, trywanu, a slaesio’r dioddefwr dros 50 gwaith, gan dorri ei gwddf, ei harddyrnau, a thorri, trywanu, a slaesio ei hwyneb, braich, a’i chanol,” meddai Patrick Harrington.

“Byddai’n hawdd siarad am y diffynnydd yn ymosod mewn gorffwylledd, ond mae patrwm yr anafiadau yn awgrymu meddylfryd penodol.”

Fe wnaeth llofruddiaeth Lynette White arwain at dri dyn dieuog yn cael eu carcharu yn 1990 cyn i’w cyhuddiadau gael eu gwyrdroi yn 1992, a chyn i’r achos ailagor.

Bu’r achos yn destun ymchwiliad gwerth £30 miliwn i benderfynu a wnaeth 13 o swyddogion Heddlu De Cymru wyrdroi cwrs cyfiawnder drwy amharu â thystiolaeth.

Daeth yr achos yn erbyn wyth o’r swyddogion i ben yn 2011, ar ôl i ddogfennau fynd ar goll.