Mae Plaid Cymru yn hanesyddol wedi “dysgu llawer iawn” o’i methiannau a’i llwyddiannau etholaethol, yn ôl un o’i hoelion wyth.

Daw sylwadau Dafydd Wigley, cyn-arweinydd y Blaid, wedi iddo ddod i’r amlwg y bydd adolygiad yn cael ei gynnal i’r hyn aeth o’i le yn etholiad mis Mai, ac wedi i sawl ffigwr amlwg ddweud bod angen i Blaid Cymru fyfyrio ar y canlyniad.

Mi gollodd y Blaid sedd y Rhondda, ac mi gollodd dir mewn sawl sedd targed – gan gynnwys Llanelli, Gorllewin Caerdydd a Blaenau Gwent.

Mewn darn diweddar i gylchgrawn Barn, mae’r sylwebydd a’r academydd, Richard Wyn Jones, yn galw’r canlyniad yn “embaras ac yn siop siafins” ac mae’n dweud bod y Blaid wedi ei chael hi’n “anodd” codi cwestiynau caled am ei hun dros y degawd diwethaf.

Mae Dafydd Wigley yn herio’r syniad bod y Blaid yn cael trafferth dysgu o’i methiannau, ac mae’n tynnu sylw at refferendwm 1979 (refferendwm aflwyddiannus tros ddatganoli i Gymru).

“Dw i’n bersonol yn credu ein bod ni wedi dysgu llawer iawn o edrych yn fanwl iawn ar ymgyrchoedd sydd wedi llwyddo, ac ymgyrchoedd sydd wedi methu,” meddai wrth golwg360.

“Dw i’n cofio mai’r methiant mwyaf, wrth gwrs, oedd – a dyw hyn ddim yn fethiant y Blaid yn unig – refferendwm trychinebus 1979.

“Mi ddaru ni ddysgu llawer iawn iawn o hynny ac mi gymerodd rhai blynyddoedd i ni weithredu beth oeddem ni wedi dysgu.

“Ond mi ddaru hynny arwain at sefyllfa lle oeddem ni’n gallu ymgyrchu yn llawer iawn fwy effeithiol yn yr 1990au. A dyna ddaru wneud y gwahaniaeth. Does gen i ddim gronyn o amheuaeth.

“Yna ddoth refferendwm [llwyddiannus tros ddatganoli yn 1997] ac ein llwyddiant yn [etholiad cyntaf y Senedd yn] 1999.”

Etholiad ‘llwyddiannus’?

Mae Dafydd Wigley yn teimlo bod yna ongl bositif ar ganlyniad yr etholiad diweddaraf, sef ei fod yn dangos bod ymwybyddiaeth y Cymry o’u harwahanrwydd yn gryfach nag erioed.

“Mewn ffordd roedd yr etholiad diwethaf yma yn llwyddiant i’r graddau bod pobol wedi dechrau dod i sylwi bod polisi iechyd yng Nghymru yn bolisi cwbl wahanol i’r polisi iechyd yn Lloegr,” meddai.

“I’r graddau hynny, yn nhermau iechyd, ein bod ni wedi cael ein hannibyniaeth. Annibyniaeth polisi, ac annibyniaeth i’w weithredu fo.

“Ac at ei gilydd roedd well gan bobol y polisi iechyd oedd yn cael ei weithredu yng Nghymru i’r un oedd yn cael ei weithredu yn Lloegr.”

Mae’n pwysleisio bod yr argyfwng wedi bod yn “gymaint o ffactor” yn yr etholiad, ac yn “llawer mwy o ffactor nag oedd neb wedi rhagweld”.

Mae’n tynnu sylw at y ffaith bod y pleidiau sydd mewn grym, ledled Prydain, wedi cael eu gwobrwyo yn ystod etholiadau eleni (yr SNP yn yr Alban, a’r Ceidwadwyr yn Lloegr).

“Sut bynnag y byddai’r blaid wedi rhedeg yr ymgyrch byddai hynna wedi bod yn ffactor,” meddai am hynny. “A dw i ddim yn siŵr faint yn fwy gallwn ni fod wedi gwneud.”

Mae Dafydd Wigley yn “croesawu’n fawr” mai Dafydd Trystan, cyn-Brif Weithredwr a chyn-Gadeirydd Plaid Cymru, fydd yn arwain yr adolygiad i berfformiad etholiadol Plaid Cymru.

Beirniadaeth ddiweddar

Yn rhifyn diweddaraf Barn mae Richard Wyn Jones yn pwysleisio bod yn rhaid i Blaid Cymru gymryd tri cham: ‘Cael gwared â’r rhaniadau’, ‘Diwygio’r peiriant ymgyrchu’ a dangos ‘Gonestrwydd mewnol’.

Dywed y canlynol am y trydydd cam: “Mewn gwleidyddiaeth fel mewn bywyd yn gyffredinol, mae … yn bwysig ein bod yn fodlon gofyn cwestiynau caled ynglŷn â’r modd y buom yn delio â’r pethau hynny sydd o fewn ein rheolaeth ac y gellid neu y dylid bod wedi eu rhagweld.”

“Mae profiad y degawd diwethaf yn awgrymu bod Plaid Cymru’n cael hynny’n anodd.”

Mewn darn i Wales Online mae un o gyd-weithwyr yr academydd a chyd-sylwebydd, Laura McAllister, yn cynnig cyngor digon tebyg.

“Er budd y blaid, beth am obeithio nad oes yna unrhyw wadu neu ymddygiad cwlt y tu ôl i’r llen,” meddai.

Ar ben hyn bu Leanne Wood, cyn-arweinydd y Blaid, yn rhannu ei barn hithau am y mater dros y penwythnos ar raglen radio Sunday Supplement BBC Wales.

Wrth drafod uwch-swyddogion y blaid, dywedodd ei bod yn gobeithio bod “pobol yn barod i herio ac i ofyn cwestiynau”. Ategodd ei fod yn bwysig bod yna “awydd am hunanfyfyrio”.

Yn ystod y rhaglen, fe wnaeth y cyn-arweinydd hefyd dynnu sylw at ddiffygion o ran trefn y blaid ar lawr gwlad, ac mi awgrymodd bod angen datblygu “neges” y blaid.

“Ar wahân i annibyniaeth beth yn union oedd ein neges graidd yn yr etholiad yma?” meddai. “Dw i ddim yn siŵr.”

Gormod o ffocws ar annibyniaeth?

Mae rhai wedi codi cwestiynau y sylw a roddwyd i annibyniaeth – hynny yw bod gormod o bwyslais ar annibyniaeth: tybed a yw Dafydd Wigley yn rhannu’r farn honno?

“Roedd y penderfyniad wedi ei wneud yn amlwg,” meddai.

“Roedd Adam [Price yr arweinydd] yn gyffyrddus iawn efo fo. I fod yn rhoddi blaenoriaeth i annibyniaeth pan oedd yr etholiad yn dŵad.

“Roedd hyn yn sgil yr ymchwydd syfrdanol sydd wedi bod mewn cefnogaeth i annibyniaeth, a diddordeb mewn annibyniaeth fel pwnc.

“Ond yn naturiol, mewn unrhyw etholiad, dydy o ddim am gael ei benderfynu jest ar un pwnc.

“Ac yn aml iawn iawn mae’r pwnc rydych yn disgwyl i fod yn brif bwnc mewn etholiad yn troi allan i beidio bod.

“Tro yma dw i’n credu y gallwn ni – fel yr oedd yr etholiad yn agos – sylweddoli fod covid dal efo ni ac yn gysgod dros bopeth.

“Wrth gwrs, flwyddyn yn ôl, pan oedd cynlluniau etholiad yn cymryd lle oddi fewn i’r blaid roedd disgwyliad y byddai covid wedi cilio ac y buaswn yn cael etholiad mwy normal.”

Mae Dafydd Wigley o’r farn mai’r economi yw’r “ffactor pwysicaf” ym “mhob etholiad” a rhagolygon i bobol ifanc, y Gymraeg, cefn gwlad, a phrisiau tai, oll yn cylchdroi o amgylch hyn.