Portread o Dafydd Trystan Davies

Mae Dafydd Trystan Davies yn ddyn sy’n cadw’n go brysur: mae’n weithgar yn ei gymuned yng Nghaerdydd, mae’n hoff iawn o redeg, ac mae ar sawl bwrdd.

Yn ddiweddar cafodd ei benodi’n Gadeirydd ‘Bwrdd Teithio Llesol’ Llywodraeth Cymru, sy’n ceisio sicrhau bod llai yn defnyddio eu ceir, a bod llwybrau beicio a cherdded call yn bodoli ledled Cymru.

Ond nid dyma’r unig fwrdd y mae Dafydd Trystan Davies arno.