Mae cynnig ar gyfer diwygio Cyfansoddiad Iwerddon wedi cael ei gyflwyno i sicrhau fod gan bob dinesydd hawl i gartref.

Mae’r cynnig wedi dod gan blaid Fianna Fáil ac os byddai’r bil yn cael ei basio, byddai’n golygu fod hawl i gartref yn dod yn rhan o’r Cyfansoddiad.

Byddai’n diwygio Erthygl 43, sy’n ymwneud â hawliau eiddo preifat, gan ychwanegu fod “y Wladwriaeth yn cydnabod, ac y bydd yn amddiffyn, hawl pob person i gael mynediad at gartref addas”.

Yn ogystal, byddai’n cynnwys fod y “Wladwriaeth yn cyflenwi, o fewn yr adnoddau sydd ar gael iddyn nhw, ar gyfer sicrhau’r hawl hon, drwy ddeddfwriaeth a mesurau eraill”.

Mae’r bil yn cael ei drafod heddiw (4 Mehefin), a daw ddiwrnod ar ôl i fil tebyg gan People Before Profit basio ei ail ddarlleniad ddoe.

Er bod geiriad y bil hwnnw ychydig yn wahanol i un Fianna Fáil, mae bil People Before Profit hefyd yn galw am gynnwys hawl i gartrefi yn y Cyfansoddiad.

‘Mynd ymhellach’

Dywedodd llefarydd Fianna Fáil ar gartrefi yn y Seanad, Mary Fitzpatrick, fod cartrefi wedi “bod yn flaenoriaeth gyntaf” i’r blaid erioed.

Rhaid i’r polisïau sydd mewn lle ar y funud er mwyn ymdopi â’r argyfwng tai yn y wlad fynd ymhellach, meddai.

“Mae’n ymwneud â’r Wladwriaeth yn mynd ymhellach, mae’n ymwneud â’r Wladwriaeth yn gwneud ymrwymiad parhaol i bob dinesydd fod ganddyn nhw fynediad i gartref diogel a fforddiadwy.

“Yn ystod y pandemig, mae hi wedi bod yn amlwg pa mor bwysig yw cartref i’n diogelwch personol.

“Mae yna ormod o lawer o bobol ddigartref yn ein cymdeithas, mae’n fater rydyn ni’n mynd i’r afael ag e.

“Mae yna ormod o lawer o bobol sydd methu fforddio prynu cartref ei hunain, neu hyd yn oed sicrhau cartref rhent felly rydyn ni’n sicrhau hynny yn y ddeddfwriaeth.”