Mae adroddiadau fod y Llywodraeth yn ystyried gohirio am bythefnos y cynlluniau i ddod â’r cyfyngiadau coronafeirws i ben ar 21 Mehefin yn Lloegr.

Daw hyn ar ôl i nifer yr achosion gynyddu 75% yno dros yr wythnos ddiwethaf, ac wrth i gyfanswm yr achosion yn y Deyrnas Unedig – 6,238 – godi’n uwch na’r hyn mae wedi bod ers diwedd mis Mawrth.

Yn ôl adroddiad yn y Telegraph, diben gohirio dileu’r cyfyngiadau am bythefnos byddai sicrhau bod mwy o bobl dros 40 oed wedi cael eu hail frechiad, wrth fyrhau’r bwlch rhwng y cyntaf a’r ail o 12 i 8 wythnos.

Daw hyn ar ôl i wyddonwyr awgrymu bod angen y ddau frechiad er mwyn gallu gwrthsefyll yr amrywiolyn Delta yn effeithiol.

Hyd yn oed ar ôl llacio’r prif gyfyngiadau bythefnos yn hwyrach na’r disgwyl ar 5 Gorffennaf, gallai’r angen am gadw pellter cymdeithasol mewn bariau a thai bwyta barhau. Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford eisoes wedi cadarnhau ei fod yn ystyried cadw cyfyngiadau o’r fath yng Nghymru am weddill y flwyddyn.

Dim marwolaethau Covid-19 wedi eu cofnodi yng Nghymru ers naw diwrnod

Ond rhybudd bod 97 achos o’r amrywiolyn Delta wedi eu cadarnhau yng Nghymru