Bydd modd cynnal perfformiadau byw mewn lleoliadau lletygarwch yng Nghymru o heddiw (Mai 28) ymlaen, ond byddant yn dal i fod yn destun cyfyngiadau llym ar iechyd y cyhoedd.

Mae grwpiau wedi’u cyfyngu i hyd at chwech o bobol o chwe aelwyd, tra bod angen cadw pellter cymdeithasol o ddau fetr ar gyfer cynulleidfaoedd, a hefyd ar gyfer perfformwyr “cyn belled ag y bo’n ymarferol”, yn ôl canllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru.

Rhaid i leoliadau sicrhau bod “awyru effeithiol”, a bod systemau cerdded un ffordd yn cael eu rhoi ar waith, a bod pobl yn parhau i wisgo masgiau dan do.

Mae llacio’r rheolau ar gyfer perfformiadau byw yn dod i rym ar unwaith a bydd yn caniatáu gigs bach mewn tafarndai, bariau, caffis am y tro cyntaf ers y cyfyngiadau cyntaf yn y Deyrnas Unedig ym mis Mawrth 2020.

Roedd y Prif Weinidog Mark Drakeford wedi dweud yn gynharach y mis hwn na fyddai lleoliadau cerddoriaeth fyw a chlybiau nos yn cael eu hystyried ar gyfer ailagor tan “tua diwedd Mis Mehefin ac i mewn i fis Gorffennaf”.

Ddydd Gwener (Mai 28) dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai dim ond i bob lleoliad lletygarwch y mae’r canllawiau newydd yn berthnasol.

Caiff y rhain eu diffinio fel lleoliadau cerddoriaeth, bariau, tafarndai, caffis, bwytai ac adeiladau trwyddedig.

“Bydd elfennau pellach – er enghraifft, digwyddiadau, gwyliau – yn cael eu hystyried fel rhan o’r adolygiad nesaf,” meddai llefarydd.

Ni roddwyd dyddiad ar gyfer ailagor lleoliadau mwy sy’n darparu perfformiadau byw nac ar gyfer digwyddiadau fel gwyliau cerddoriaeth awyr agored.

Mae theatrau a neuaddau cyngerdd wedi cael agor yng Nghymru ers Mai 17.

Ddydd Iau (Mai 27) fe ddatgelodd Llywodraeth Cymru’r newid i reolau ar gyfer perfformiadau byw ar ei thudalen Twitter, gan ddweud: “Ar ôl llawer o drafodaethau â’r sector, gallwn gadarnhau y gall perfformiadau byw ddychwelyd ym mhob lleoliad.

“Bydd angen asesiad risg llawn ar gyfer pob lleoliad yn unol â’r canllawiau sydd ar waith ar gyfer lletygarwch a’n canllawiau perfformio.”