Mae rhaglen deledu Dim Ysgol: Maesincla wedi ennill gwobr am y Rhaglen Cyfnod Clo Orau yng ngwobrau Broadcast.

Bwriad Broadcast yw dathlu cynyrchiadau gorau’r maes darlledu yn y Deyrnas Unedig.

Fe gafodd y seremoni ar-lein ei chynnal neithiwr (nos Iau, Mai 27).

Llwyddodd Dim Ysgol: Maesincla i gipio’r wobr gan guro rhaglenni ITV, BBC1, BBC2 a Channel 4.

Daeth Dim Ysgol: Maesincla i’r brig yng nghategori’r ‘Rhaglen Cyfnod Clo Orau: Rhaglenni Newyddion, Dogfen a Ffeithiol’.

Ffilmiwyd y rhaglen yn yr ysgol yng Nghaernarfon yn ystod y cyfnod clo, a bu’n gyfle i ddal fyny efo straeon plant, eu teuluoedd a staff cymuned arbennig Maesincla yn ystod cyfnod o newid mawr yn hanes yr ysgol.

Nid dyma’r tro cyntaf i raglen am yr ysgol gael ei gwobrwyo – enillodd Ysgol Ni: Maesincla wobr yn y categori ‘Cyfres Ffeithiol’ yn BAFTAS Cymru y llynedd.

“Rhaglen onest a chynnes”

“Diolch o galon i Manon Gwynedd [Pennaeth Ysgol Maesincla] ac ysgol a chymuned gyfan Maesincla am ymddiried ynom ni i adlewyrchu lleisiau’r plant a’u teuluoedd mewn cyfnod anodd,” meddai Elen Rhys, Comisiynydd Adloniant S4C.

“Dyma raglen onest a chynnes yn dangos cymuned ar ei gorau â chymeriadau Maesincla yn serennu drwy gydol y ddogfen.

“Llongyfarchiadau i Gwmni Cynhyrchu Darlun a’r tîm i gyd.”

Ffion Jon

Cynhyrchydd y rhaglen Ysgol Ni: Maesincla ar S4C

Dylan Wyn

Barry Thomas

Mae’r athro 45 oed i’w weld wrth ei waith ar lawr y dosbarth yn Ysgol Ni: Maesincla ar S4C. Mae’r tad i bedwar hefyd wedi chwarae mewn bandiau.