Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau wrth BBC Wales y gall perfformiadau cerddoriaeth byw “ddechrau unwaith eto ar draws pob lleoliad yng Nghymru” – a hynny ar unwaith.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai atal gigs a digwyddiadau byw eraill oedd un o’r “ergydion mwyaf i’n hymdeimlad o les ac economi’r celfyddydau”.

Ychwanegodd: “Byddwn yn parhau i gefnogi ein sectorau cerddoriaeth a chelfyddydau yng Nghymru drwy ein cronfeydd ar gyfer adfer diwylliannol, gweithwyr llawrydd, a gwydnwch economaidd.”

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai angen asesiadau risg llawn ar leoliadau yn unol â chanllawiau lletygarwch a pherfformio.

Bydd hefyd angen i leoliadau gyfyngu grwpiau i uchafswm o chwech o bobl o chwe aelwyd, defnyddio systemau un ffordd, a dilyn canllawiau awyru.

Mae’r newid yn golygu bod digwyddiadau byw yn yr un sefyllfa â bwytai a theatrau, a gafodd ailagor yn gynharach ym mis Mai – fodd bynnag nid yw’r newid hwn yn cynnwys clybiau nos.