Trwy gystadlu ar Eurovision dan ei baner ei hun mi fyddai Cymru gyfan, a’i hiaith, yn elwa.

Dyna farn Lewis Owen, sefydlydd deiseb sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i fraenaru’r tir fel bod y wlad hon yn medru cystadlu yn y gystadleuaeth ganu Ewropeaidd.

Hyd yma mae dros 700 o bobol wedi arwyddo’r ddeiseb, ac mi fydd Pwyllgor Deisebau’r Senedd yn rhoi ystyriaeth iddi pan gaiff ei ffurfio (dyw’r pwyllgorau heb gael eu hailffurfio eto).

Ar hyn o bryd mae’r Deyrnas Unedig yn cystadlu fel un endid yn y gystadleuaeth flynyddol, ond mae Lewis Owen yn credu y byddai Cymru yn elwa o gystadlu dan ei baner ei hun.

“Mae Cymru yn cystadlu fel Cymru ym myd chwaraeon yn naturiol iawn,” meddai wrth golwg360.

“Does neb yn cwestiynu hynny. A ry’n ni’n llwyddiannus iawn – rygbi, pêl-droed, Gemau’r Gymanwlad ac ati.

“Felly o’n i jest yn meddwl: ‘Pam lai gyda Eurovision?’. Mae’n rhywbeth allai fod yn rili dda. Mae lot o wledydd bychain ar draws Ewrop yn cael lot o sylw gyda Eurovision.

“Mae Gwlad yr Iâ yn enwedig, dros y ddwy flynedd ddiwetha’, wedi cael lot o sylw. Bydd e’n dda gallu codi statws ein gwlad ni.”

Mae degau o filiynau yn gwylio’r gystadleuaeth bob blwyddyn, ac mae Lewis Owen hefyd yn credu y byddai’r Gymraeg yn elwa o’r fath lwyfan.

“Eleni roedd lot o bwyslais ar wledydd oedd yn canu yn ieithoedd eu hunain,” meddai. “Yr Eidal wnaeth ennill yn canu Eidaleg. Roedd Wcráin yn canu yn Wcraneg – wnaethon nhw wneud yn dda.

“Roedd Ffrainc hefyd yn canu yn Ffrangeg. Buasai’n wych gallu jest gallu gweld y Gymraeg a diwylliant Cymru yn cael ei gynrychioli ar lefel mawr.”

Tudur Owen a Chân i Gymru

Cwestiwn amlwg sy’n codi yw pwy fyddai’n cynrychioli Cymru yn ei hymgais Eurovision cyntaf?

Yn siarad gyda Golwg ddechrau’r flwyddyn dywedodd Lewis Owen ei fod yn “obssessed” gyda’r gystadleuaeth a’i fod “eisiau bod yr act gyntaf o’r Gymru annibynnol ar Eurovision”.

Yn siarad â golwg360 mae’n dweud ei fod yn dal yn ddigon parod i gamu i’r adwy dros ei genedl.

“Wel, dw i’n berson democrataidd iawn, a buaswn i eisiau i bobol Cymru ddewis y person gorau!” meddai. “Os fi oedd hynny, buaswn i ddim yn dweud na!”

Mae’n yntau’n dychmygu mai Cân i Gymru, y gystadleuaeth gerddoriaeth Gymraeg, fyddai’n dewis cystadleuydd Cymru bob blwyddyn.

Ac mae’n credu mai Tudur Owen, y cyflwynydd a digrifwr, ddylai llenwi rôl Graham Norton (cyflwynydd darllediad Eurovision y BBC) pe bai sianel Gymreig yn darlledu’r gystadleuaeth.

Y ddeiseb

“Mae Cymru yn adnabyddus drwy’r byd fel ‘Gwlad y Gân’, ac mae gennym ddiwylliant cyfoethog o gerddoriaeth a pherfformio sy’n cael ei gydnabod a’i ddathlu yn rhyngwladol,” meddai’r ddeiseb.

“Dylai Cymru gael y cyfle i gael ei chynrychioli yn yr Eurovision fel gwlad yn ei hun.

“Felly, galwn ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda S4C a chyrff perthnasol eraill i baratoi cais i Gymru gystadlu yng Nghystadleuaeth yr Eurovision.

“Y gofyniad er mwyn cystadlu yn yr Eurovision yw bod yn aelod gweithredol o’r Undeb Darlledu Ewropeaidd (EBU). Mae S4C eisoes yn aelod gweithredol o’r EBU.

“Mae Cymru eisoes wedi cymryd rhan yn Jeux Sans Frontières [hen raglen yn llawn sialensau digri a lle oedd gwledydd yn cystadlu yn erbyn ei gilydd], Eurovision Choir, a’r Junior Eurovision Song Contest.”

Nil Points i’r Deyrnas Unedig

Cynhaliwyd yr Eurovision diweddaraf dros y penwythnos, ac mi ddaeth y Deyrnas Unedig yn olaf gyda nil points.

Mae rhai wedi tybio mai gwleidyddiaeth oedd yn gyfrifol am y canlyniad echrydus wael yma (cosb am Brexit o bosib?) ond dyw Lewis Owen ddim yn credu hynny.

Doedd perfformiad James Newman, cynrychiolydd y Deyrnas Unedig, jest ddim yn ddigon unigryw, meddai.

“Wnaethon ni jest ddim sefyll allan,” meddai. “Achos roedd gymaint o berfformiadau trawiadol a chryf iawn.

“Oedd y gân yn oce. Oedd e’n canu’n oce. Doedd e’ ddim yn wael. Ond doedd e’ jest ddim yn gallu sefyll allan. A dyna’r peth pwysicaf rili gydag ennill Eurovision.”