Bydd Eisteddfod T yn dychwelyd dros hanner tymor y Sulgwyn wythnos nesaf, ac mae nifer y cystadleuwyr wedi dyblu ers llynedd – o 6,000 i 12,000.

Ond mae’r trefnwyr ar fin lansio ap fydd yn galluogi defnyddwyr i ymweld â maes rhithiol Eisteddfod yr Urdd, a hynny am y tro cyntaf erioed.

Gydag ap Eisteddfod yr Urdd, bydd modd crwydro map rhithiol gyda dolenni byw i dros 100 o fideos a gweithgareddau.

Mae’r rhain yn cynnws sesiynau pabell GwyddonLe, CogUrdd a Phentre’ Mistar Urdd, i ddisgo yng Ngwersyll Caerdydd a gig yng Nglan-llyn.

Mi fydd yr ap hefyd yn gartref i Arddangosfa Rithiol o holl waith buddugol adran Celf a Dylunio.

Bydd modd llawrlwytho ap ‘Eisteddfod yr Urdd’ yn rhad ac am ddim o ddydd Gwener, 28 Mai ymlaen o’r Apple Store a Play Store.

Ap Eisteddfod yr Urdd

Mae Eisteddfod T yn cael ei darlledu o stiwdio bwrpasol yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog eleni, gyda chystadlaethau’r ŵyl wedi’u recordio o flaen llaw.

“Arloesol”

“Gyda safon y cystadlu wedi bod yn aruchel unwaith eto eleni, a’r deunydd ysgafn yn gymaint o donig, mi fydd Eisteddfod T yn wythnos llawn adloniant pur o’r dechrau i’r diwedd,” meddai Siân Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a’r Celfyddydau.

“Mi ydan ni wedi addo Eisteddfod ddigidol fwy arloesol fyth ar draws yr holl blatfformau, ac yn edrych ymlaen at gynnig profiadau newydd drwy lansio ap Eisteddfod T.

“Mi fydd y farchnad ddigidol Maes T hefyd yn dod â bwrlwm yr ŵyl i Facebook unwaith eto, ac yn rhoi cyfle gyfle i bobl siopa o’r soffa a chefnogi crefftwyr a chwmnïau Cymru drwy gydol yr wythnos.”

Ychwanegodd Eifion Evans, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion: “Mae’r Gwersyll yn Llangrannog yn adnodd hynod o bwysig i’r mudiad ac i ni yng Ngheredigion, a braf iawn yw gweld yr Urdd yn gwneud defnydd o’r Gwersyll mewn ffordd greadigol i hybu adloniant i blant a phobl ifanc Cymru.

“Edrychwn ymlaen yn fawr i weld y wledd o gystadlu a mwynhau dros wythnos yr Eisteddfod.”

Bydd Eisteddfod T yn cael ei ddarlledu mewn cyfres o raglenni arbennig ar S4C a BBC Radio Cymru 2 drwy gydol wythnos arferol yr Eisteddfod, sef o ddydd Llun, 31 Mai hyd at ddydd Gwener, 4 Mehefin.

Bydd y rhaglenni ar S4C yn dechrau yn fyw o 10 o’r gloch, gan gynnwys rhaglen uchafbwyntiau gyda’r nos.

Bydd yno hefyd adran Eisteddfod T arbennig ar golwg360 yn ystod yr ŵyl. Mwynhewch y darllen!