Dylan Wyn yw un o’r athrawon sydd i’w gweld ar Ysgol Ni:Maesincla ar S4C. Yn ogystal â dysgu yn yr ysgol gynradd yng Nghaernarfon, mae’r tad i bedwar hefyd wedi chwarae mewn bandiau roc…

Sut ymateb gawsoch chi ar ôl iddyn nhw ddangos Ysgol Ni:Maesincla ar S4C?

Da iawn. Roedd pobol wedi gwirioneddol fwynhau’r gyfres ac yn dweud pethau caredig am y plant a’r staff.