Mae ‘dêl newydd’ Boris Johnson wedi cael ei beirniadu’n hallt gan un o weinidogion amlycaf Llywodraeth Cymru.

Ddydd Mawrth cyhoeddodd y Prif Weinidog y byddai’n gwario £5 biliwn ar adeiladu cartrefi ac isadeiledd.

Nod y ‘ddêl’ hon yw adfywio’r Deyrnas Unedig wedi i’r argyfwng coronafeirws fynd heibio… ond mae Vaughan Gething yn dadlau na fydd Cymru’n elwa go-iawn.