Mae degau o gynghorwyr yn pwyso ar Mark Drakeford i ddatrys “argyfwng yr ail gartrefi”, ac wedi ysgrifennu ato yn gofyn am wneud hynny’n flaenoriaeth i’w Lywodraeth.

Yn dilyn cyfarfod a gafodd ei drefnu gan Gyngor Tref Nefyn, mae cynghorwyr o sawl ardal yng Nghymru yn pwysleisio fod y diffyg rheolaeth ar brynu a gwerthu ail gartrefi “wedi mynd â phrisiau tai ymhell o afael pobol leol”.

Fel man cychwyn, mae’r grŵp yn gofyn i Lywodraeth Cymru weithredu ar argymhellion adroddiad Dr Simon Brooks ar unwaith.

“Erfyniwn arnoch i ddangos arweiniad i ddatrys yr argyfwng gan gyflwyno deddfwriaeth i warchod ein cymunedau a’n cyfoeth diwylliannol,” meddai’r cynghorwyr yn y llythyr.

“Byddai’n wych gweld gweithredu pendant sy’n dangos bod Cymru yn wlad foesol ac egwyddorol.”

“Problem gynyddol”

“Mae e’n broblem gynyddol mewn pentrefi glan môr fel Llansteffan, lle mae tai yn mynd ar werth am brisiau arswydus fel maen nhw yn y gogledd ar lan môr,” meddai’r Cynghorydd Alun Lenny, Cadeirydd Pwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Gaerfyrddin ac un o’r rhai sydd wedi arwyddo’r llythyr.

Eglurodd Alun Lenny, sy’n cynrychioli de tref Caerfyrddin ar Gyngor Sir Gaerfyrddin, wrth golwg360 fod y sefyllfa’n debyg yn Nhalacharn, pentref sydd â chysylltiad â Dylan Thomas.

“Wrth i chi fynd lawr yr arfordir wedyn gydag ymyl Bae Caerfyrddin ac i Sir Benfro, mae rhannau o Ddinbych-y-Pysgod [lle] mae 80% o’r tai yn ail gartrefi.

“Er eich bod chi’n mynd mewn yn fan’na i ardal Saesnig ei hiaith yn bennaf, [mae] yna ysgol Gymraeg nawr yn Ninbych-y-Pysgod gyda dros 200 o blant – sy’n ddatblygiad newydd.

“Mae Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro yn un etholaeth bellach, felly ro’n i’n canfasio lawr yno, ac mae gyda ni dri aelod Plaid Cymru sy’n aelodau ar y Cyngor Sir yn Ninbych-y-Pysgod, Maenorbŷr, a Chaeriw – yr ardal oedd yn arfer cael ei alw’n Little England Beyond Wales, ond sy’n raddol newid.

“Ond mae pobol yn fan hynny, a wnaethon ni gwrdd ar y stryd yn ystod yr etholiad, yn ffyrnig o grac i ail gartrefi,” eglurodd.

“Mae hyn wedi cael ei danio, gallwn ni ddweud, gan bobol flwyddyn yn ôl – pan ddaeth covid – yn ffoi i’w hail gartrefi i bob cyfeiriad, ond yn enwedig lawr yr M4 efallai i dde Sir Benfro.

“Roedd yna deimladau ffyrnig iawn ymhlith pobol leol tuag atyn nhw. Roedd yna deimladau cryf ta beth oherwydd eu bod nhw’n gwthio prisiau tai i fyny ymhell tu hwnt i gyrraedd pobol leol – yr un hen stori mewn sawl cymuned.”

“Tu hwnt” i fater ieithyddol

“Nid jest mater ieithyddol yw e. Er, wrth reswm, pryderu am yr iaith mewn cymunedau bregus ry’n ni’n bennaf, mae’n fater sy’n mynd tu hwnt i hynny,” ychwanegodd Alun Lenny.

“Dw i wedi bod yn siarad gyda Chadeirydd Cynllunio Cyngor Northumberland, ac mewn pentrefi ar hyd pentrefi glan môr… yn nwyrain Lloegr, ac mae yna bryderon tebyg. Maen nhw wedi dod mewn â mesurau cynllunio lleol i geisio amddiffyn eu cymunedau rhag ail gartrefi.

“Ry’n ni’n pwysleisio gyda llaw, taw sôn am ail gartrefi ry’n ni. Mae’r modd mae pobol leol yn gosod tai fel tai haf yn rhan o’r economi ac yn help i gadw pobol yn eu cymunedau – mae’n bwysig, dw i’n credu, i wahaniaethu rhwng y ddau yna.

“Dyna’r sefyllfa yn ne Penfro, ac mae’n gwaethygu’n gyflym iawn,” meddai, gan ddweud fod y sefyllfa’n debyg ym mhentrefi glan môr ac ardaloedd gwledig Sir Gâr.

“Cyfoethog yn manteisio ar y tlawd”

“Yn y bôn, beth mae’n dod lawr iddo yw’r cyfoethog yn manteisio ar y tlawd, neu’r cymharol dlawd,” meddai Alun Lenny.

“Mae sôn eich bod chi’n gallu dyblu premiwm treth cyngor ar ail gartref, ond i rywun sy’n mynd i dalu hanner miliwn i filiwn o bunnau am ail gartref, dim ond peanuts yw hynna.

“Yn fy marn i, fel Cadeirydd Pwyllgor Cynllunio, ac yn fy mhrofiad i yn y swydd honno ers chwech neu saith mlynedd, dw i’n argyhoeddedig mai trwy ddeddfau cynllunio mae mynd i’r afael â’r broblem ofnadwy yma ar fyrder.

“Trwy roi cap ar y nifer o ail gartrefi sy’n cael eu caniatáu mewn unrhyw gymuned, ac wedyn bod unrhyw un sydd am brynu eiddo fel ail gartref yn gorfod gofyn am ganiatâd cynllunio.

“A bod y Pwyllgor Cynllunio wedyn yn ystyried pa impact fyddai hynny yn ei gael ar y gymuned leol honno.”

“Gwirion bost”

“Mae prisiau tai wedi mynd yn wirion bost yn yr ardal,” meddai Aled Wyn Jones, Cynghorydd Sir dros ward Llanaelhaearn ar Gyngor Gwynedd, wrth golwg360.

“Yn Mhistyll, £257,000 am ddim byd!” pwysleisiodd wrth gyfeirio at gapel Tom Nefyn a gafodd ei werthu ar ocsiwn yn ddiweddar.

“Mae’n gwneud i chi sylweddoli yn fan hyn, beth sydd wedi digwydd i’r farchnad. Mae’n ymddangos i mi, bod nifer helaeth o bobol efallai yn ffeindio: ‘Rydyn ni’n gallu gweithio o adra rwan, does dim rhaid i’r adra fod ynghanol y ddinas, fedra adra fod ynghanol cefn gwlad cyn belled bod gennym ni WiFi yna’.

“Mae hynny i weld yn digwydd i mi, mae yna lot mwy o dai wedi gwerthu am brisiau na fysa rhywun byth yn credu fysa nhw’n mynd amdanyn nhw.

“Sydd yn ei wneud o’n arbennig o anodd i’r rhai ifanc sydd eisiau prynu am y tro cyntaf, oherwydd y tueddiad ydy, wrth gwrs, mae prisiau tai yn mynd fyny gyda phobol yn dod mewn ac yn gallu talu lot yn fwy na fysa person lleol yn gallu ei dalu.”

“Ddim digon pell”

“Dw i ddim yn meddwl ei fod o’n mynd yn ddigon pell,” meddai Aled Wyn Jones am bolisi Cyngor Gwynedd i gynyddu treth ail gartrefi i 100%.

“Faswn i’n meddwl, yn bersonol rwan, fod y premiwm wedi cael ei ddyblu oherwydd bod Llywodraeth Cymru wedi dweud ‘dydych chi heb ddefnyddio’r cyfleusterau sydd gennych chi eisoes i drio rheoli’r farchnad’.

“Dw i ddim yn meddwl ei fod o’n ddigon, fel mae nifer wedi dweud… os ydy rhywun yn gallu fforddio rhoi’r pres gwirion am y tai maen nhw’n eu prynu, maen nhw’n gallu fforddio hefyd rhoi dwywaith y dreth.

“Ond bod rhaid i ni ddefnyddio’r arfau roedd gennym ni, cyn fedrwn ni ddwyn unrhyw berswâd ar y Llywodraeth.”

Y Cynghorwyr sydd wedi arwyddo’r llythyr

Dafydd Thomas  (Cadeirydd, Cyngor Cymuned Llanllyfni)

Sian Elen Pleming (Cynghorydd Cymuned Pistyll)

Simon Glyn (Cynghorydd Sir ward Tudweiliog)

Judith Humphreys (Cynghorydd Sir ward Penygroes)

Sian Parri (Cadeirydd Cyngor Cymuned Tudweiliog)

Megan Lloyd Williams (Cynghorydd Cymuned Dolbenmaen)

Dafydd Rhys Thomas (Cynghorydd Sir, Ynys Cybi)

Lisbeth James (Cynghorydd Cymuned Pistyll)

Alun W Mummery (Cynghorydd a deilydd portffolio tai Ynys Môn)

Gruffydd Williams (Cynghorydd ward Nefyn)

Delyth Ingram (Cyngor Cymuned Llanfaelog a Rhosneigr)

Gareth T M Jones (Cynghorydd ward Morfa Nefyn ac Edern)

Lynsey Thomas (Cynghorydd Cyngor Cymuned Llandysul)

Elin Hywel  (Dirprwy Faer Cyngor Tref Pwllheli a Chadeirydd Grwp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith)

Anwen Jones (Cyngor Cymuned Llanystumdwy)

Rhys Llewelyn (Cynghorydd Tref Nefyn)

Alun Lenny (Cadeirydd Pwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Caerfyrddin).

Rhys Tudur (Cadeirydd Cyngor Tref Nefyn)

Gwilym Evans (Cynghorydd Cyngor Cymuned Dolbenmaen)

Geraint Jones (Cyngor Cymuned Bro’r Eifl (Llanaelhaearn a Threfor))

Jina Gwyrfai (Cadeirydd Cyngor Cymuned Bro’r Eifl (Llanaelhaearn a Threfor))

Aled Jones  (Cynghorydd Sir ward Llanaelhaearn)

Mared Llewelyn Williams (Cynghorydd Tref Nefyn)

Alwyn Gruffydd (Cynghorydd Sir Gwynedd a Chynghorydd Tref Porthmadog).

Catrin O’Neill (Cyngor Cymuned Aberdyfi a Siarter Cyfiawnder Cartrefi)

Catrin Roberts (Cynghorydd Tref Nefyn)

Caren Jones (Cynghorydd Tref Nefyn)

Deio Evans  (Cyngor Cymuned Llangrannog)

Cris Tomos (Aelod Cabinet Cyngor Sir Penfro / Cadeirydd Cyngor Cymuned Crymych / Aelod Pwyllgor Siarter Cyfiawnder Cartrefi i bobol leol)

Alaw Llewelyn (Cynghorydd Tref Nefyn)