Yn dilyn methiant ymgyrch i achub Capel Bethania, neu ‘Capel Tom Nefyn’, gyda’r capel yn cael ei werthu mewn ocsiwn ddydd Mercher (Mai 19), mae Cadeirydd Grŵp Cymunedau Cymdeithas yr Iaith wedi dweud wrth golwg360 fod y gwerthiant yn “symptom o broblem ehangach” ac fod “tai haf yn bla nid yn unig ym Mhen Llŷn ond ar draws pob man yng Nghymru”.
Mae ElIn Hywel hefyd yn dweud nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud “yn agos i fod yn ddigon” i fynd i’r afael â’r argyfwng tai haf.
Yr ymgyrch
Roedd ymgyrchwyr wedi sefydlu tudalen GoFundMe yn eu hymdrech i brynu’r capel a’i droi yn ganolfan gymunedol, gan lwyddo i godi cwta £30,000.
Fodd bynnag, cafodd y capel, sy’n dyddio’n ôl i 1875, ei werthu am £257,000 – pris sydd wedi cael ei ddisgrifio fel “crocbris”.
Yn dilyn y gwerthiant mae’r rheiny sydd ynghlwm wrth yr ymgyrch wedi dweud y bydd pawb wnaeth gyfrannu yn cael eu harian yn ôl.
Mae caniatâd cynllunio eisoes wedi’i roi i droi’r hen gapel yn dŷ haf.
Wrth siarad â golwg360, dywedodd Elin Hywel: “Mae o’n symptom o broblem ehangach, mae tai haf yn bla nid yn unig ym Mhen Llŷn ond ar draws pob man yng Nghymru.”
Effaith negyddol ar gymunedau
“Mae’r argyfwng tai yn cael effaith mor negyddol ar ein cymunedau ni ac ar bobol ifanc yn enwedig sy’n ceisio ymgartrefu yn eu cymunedau,” medd Elin Hywel.
“Mae adeiladau fel hyn yn llawn atgof… maen nhw’n meddwl rhywbeth i ni ac mae yno hanes yn sownd yna.
“Ond mae pobol sy’n dod o’r tu allan jyst yn gweld o fel adeilad gwag a buddsoddiad felly maen nhw’n gallu talu crocbris oherwydd maen nhw’n gwybod y byddan nhw’n gallu cael o’n ôl drwy incwm.
“Mae o’n anodd ofnadwy i ni allu gweithio yn erbyn hynna.
“Mae o’r un fath pan mae pobol yn dod yma dydi, maen nhw’n gweld lle distaw, ond actually i ni dydi o ddim yn ddistaw o gwbl oherwydd mae ein bywydau ni mor swnllyd.
“Maen nhw jyst yn meddwl ‘o lle distaw… gawn ni wneud be’ ’da ni isio… mae o’n wag’ a hyn a’r llall.
“Felly mae o [Capel Tom Nefyn] yn bendant yn symptom o’r broblem, ond mae’r broblem yn un llawer iawn ehangach.”
Cyhuddo Llywodraeth Cymru o beidio gwneud digon
Nid yw ElIn Hywel yn credu fod Llywodraeth Cymru yn gwneud “yn agos i fod yn ddigon” i fynd i’r afael â’r argyfwng tai haf.
“Fasa ’na ddim byd yn gallu bod yn agos i fod yn ddigon oni bai am roi stop ar beth sy’n digwydd.
“Hyd yn oed tasa nhw’n mynd ati, yn enwedig adeiladau sydd efo hanes fatha’r capel, dydi gwneud unrhyw beth yn llai na dweud ‘Na chewch chi ddim ei werthu fo’ am grocbris ddim yn ddigon – mae’n rhaid iddyn nhw roi eu traed lawr.
“Ac os ydi rhywun yn mynd â nhw i’r cwrt neu os ydi Llywodraeth Prydain yn dweud bo’ nhw ddim yn cael gwneud hynna fine gad iddyn nhw wneud hynna.
“Mae Llywodraeth Cymru i fod ar ein hochr ni, maen nhw fod i gwffio drosom ni felly mae o’n gwneud synnwyr llwyr i fod bo’ nhw’n gwneud unrhyw beth o fewn ei gallu i wneud hynny.”
Galw am sefydlu corff tai penodol i Ben Llŷn
Yn dilyn y gwerthiant, mae aelodau etholedig Dwyfor Meirionnydd, Mabon ap Gwynfor AoS a Liz Saville Roberts AS, hefyd wedi dweud bod Llywodraeth Cymru wedi “methu”.
Mewn datganiad ar y cyd gan y ddau, dywedwyd: “Er gwaethaf ymdrechion diflino ymgyrchwyr lleol, mae’n siomedig iawn bod adeilad hanesyddol arall, sydd wedi’i wreiddio yn nhraddodiadau bywyd Pen Llŷn wedi cael ei gipio o afael y gymuned a’i werthu am y pris uchaf.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi methu â mynd i’r afael â’r sefyllfa. Mae eu difaterwch wedi caniatáu i hyn gynyddu i bwynt lle mae ein cymunedau yn wynebu argyfwng; argyfwng tai lleol lle mae’r galw am dai cymdeithasol yn fwy na’r cyflenwad, tra bod nifer yr ail gartrefi allan o reolaeth yn llwyr.
“Mae angen mwy o reolaethau deddfwriaethol arnom ar frys i ddelio â’r nifer y tai all drosglwyddo o fod yn gartrefi cynradd i ail gartref neu lety gwyliau prynu i osod.
“Mae achos cryf hefyd i sefydlu corff tai penodol i Ben Llŷn, gyda ffocws ar ddarparu cartrefi fforddiadwy a dibynadwy i bobl leol Llŷn.”
“Arwydd o anghydraddoldeb”
Ychwanegodd y ddau: “Mae’r argyfwng tai sy’n wynebu Pen Llŷn yn arwydd o anghydraddoldeb ledled y Deyrnas Unedig, ond mae cymunedau gwledig yn dioddef yn amghymesurol, gyda diffyg tai fforddiadwy yn cael ei waethygu gan niferoedd cynyddol o ail gartrefi, gan wthio prisiau tai ymhell y tu hwnt i gyrraedd cyflogau lleol.
“Tra ein bod yn aros i Lywodraeth Cymru gydnabod yr argyfwng, rhaid i ni fel cymuned ystyried pob opsiwn i helpu i ddiwallu anghenion tai pobl leol.
“Mae hyn yn cynnwys ystyried sefydlu partneriaeth tai cymdeithasol sy’n canolbwyntio ar gefnogi pobl ifanc a theuluoedd Pen Llyn.
“Mae mwy a mwy o bobl ifanc yn ei chael hi’n amhosibl cael troed ar yr ysgol dai lleol. Diffyg opsiynau tai yw un o brif heriau Dwyfor Meirionnydd.
“Os na eir i’r afael â’r argyfwng rŵan, byddwn yn gweld diboblogi pellach, gan fygwth cynaliadwyedd ein cymunedau ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”
Llywodraeth Cymru yn “ymwybodol iawn o’r effaith y gall nifer fawr o ail gartrefi ei chael”
Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydyn ni wedi ymrwymo i adeiladu cartrefi fforddiadwy o ansawdd uchel i bawb.
“Rydyn ni’n ymwybodol iawn o’r effaith y gall nifer fawr o ail gartrefi ei chael mewn rhai rhannau o Gymru, ac yn pryderu am hyn.
“Cymru yw’r unig wlad yn y Deyrnas Unedig i roi pwerau i awdurdodau lleol i godi lefelau uwch o dreth gyngor ar eiddo gwag yn y tymor hir ac ail gartrefi.
“Awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am y penderfyniad i ddefnyddio a chynyddu premiymau’r dreth gyngor.
“Rydyn ni hefyd wedi cynyddu’r gyfradd uwch o Dreth Trafodiadau Tir ac, ar hyn o bryd, rydyn ni’n asesu’r ymyriadau mwyaf effeithiol a sut mae ein partneriaid yn defnyddio’r pwerau sy’n bodoli eisoes.
“Yn ychwanegol at hynny, rydyn ni wedi ymrwymo i adeiladu 20,000 o gartrefi carbon isel ychwanegol ledled Cymru a datblygu cynllun tai cymunedol Cymraeg.”