Fe wnaeth Martin Bashir ddefnyddio “ymddygiad twyllodrus” er mwyn sicrhau cyfweliad Panorama gyda’r Dywysoges Diana yn 1995, yn ôl adroddiad.
Mae’r adroddiad swyddogol yn dweud ei fod torri canllawiau’r BBC ar gyfer cynhyrchwyr.
Yn ogystal, fe wnaeth y BBC “fethu â chyrraedd eu safonau uchel arferol ar dryloywder a gonestrwydd” yn ystod ymchwiliad dilynol i’r cyfweliad, meddai’r adroddiad gan yr Arglwydd Dyson.
Yn ôl yr adroddiad, fe wnaeth Martin Bashir dorri rheolau’r BBC “yn ddifrifol” drwy greu datganiadau banc ffug, a’u dangos nhw i frawd Diana er mwyn cael mynediad at y dywysoges.
Wrth ymateb i ganfyddiadau Lord Dyson, fe wnaeth Martin Bashir ymddiheuro, gan ddweud ei fod “yn wirionedd difaru” creu datganiadau banc ffug.
Er hynny, dywedodd nad oedd e’n teimlo fod hynny “wedi cael unrhyw effaith o gwbl ar benderfyniad personol y Dywysoges Diana i gymryd rhan yn y cyfweliad”.
Mae uwch weithredwyr y BBC hefyd wedi cael eu beirniadu am yr ymchwiliad mewnol a gafodd ei gynnal ym 1996 er mwyn ymchwilio i ddogfennau ffug.
Roedd yr ymchwil yn ceisio penderfynu a gafodd y dywysoges ei chamarwain, gyda darn o dystiolaeth bwysig, nodyn gan Diana, yn awgrymu na chafodd ei chamarwain.
Fodd bynnag, mae’r Iarll Spencer wedi ymateb gan ddweud ei fod yn “tynnu llinell” rhwng y cyfweliad â’i chwaer a’i marwolaeth ddwy flynedd yn ddiweddarach.
Yn ôl yr adroddiad, fe wnaeth y BBC, “heb gyfiawnhad, fethu â chyrraedd eu safonau uchel arferol ar dryloywder a gonestrwydd drwy guddio ffeithiau yr oedden nhw wedi gallu eu sefydlu ynglŷn â sut y gwnaeth Mr Bashir sicrhau’r cyfweliad yn eu cofnodion i’r wasg, a methu â sôn am weithgareddau Mr Bashir, nag ymchwiliadau’r BBC iddyn nhw, ar unrhyw raglen newyddion.”
“Peth gwirion i’w wneud”
“Dyma’r ail dro i fi gydweithredu’n llawn, ac o fy ngwirfodd, gydag ymchwiliad i ddigwyddiadau dros 25 mlynedd yn ôl,” meddai Martin Bashir wrth ymateb.
“Fe wnes i ymddiheuro bryd hynny, a dw i’n gwneud eto nawr, am y ffaith fy mod i wedi gofyn am ffugio datganiadau banc.
“Roedd e’n beth gwirion i’w wneud, ac yn weithred dw i’n ei difaru’n fawr.
“Ond dw i’n glynu wrth dystiolaeth roddais chwarter canrif yn ôl, ac eto’n fwy diweddar.”
Roedd Martin Bashir yn olygydd crefydd gyda BBC News, ond fe wnaeth e gyhoeddi’r wythnos diwethaf ei fod yn rhoi gorau i’w swydd gan ei fod wedi bod yn ddifrifol wael gyda chymhlethdodau’n ymwneud â Covid-19.
Ychwanegodd fod y datganiadau ffug heb gael dylanwad ar benderfyniad Diana.
“Mae tystiolaeth yn ei llawysgrifen hi a gafodd ei roi i’r ymchwiliad (a’i chyhoeddi gyda’r adroddiad heddiw) yn cadarnhau hyn yn ddiamod, ac mae tystiolaeth gref arall a gafodd ei rhoi i’r Arglwydd Dyson yn cadarnhau hyn,” meddai.
“Er gwaethaf ei ddarganfyddiadau eraill, mae’r Arglwydd Dyson ei hun yn derbyn y byddai’r Dywysoges fwy na thebyg wedi cytuno i gael ei chyfweld heb yr hyn mae’n ei alw’n ‘ymyrraeth’ gennyf i.
“Mae’n drist fod yr un mater hwn wedi taflu cysgod dros benderfyniad dewr y Dywysoges i ddweud ei stori, i siarad yn ddewr am y trafferthion yr oedd hi’n eu hwynebu, ac i helpu i fynd i’r afael â’r tawelwch a’r stigma oedd ynghlwm â materion iechyd meddwl yr holl flynyddoedd hynny’n ôl.
“Fe wnaeth hi arwain y ffordd ar gynifer o’r materion hyn, a dyna pam y byddaf yn parhau i fod yn eithriadol o falch o’r cyfweliad.”
“Mae’n ddrwg gen i” fod yr ymchwiliad wedi methu’r safonau
Mae’r cyn-Gyfarwyddwr Cyffredinol, yr Arglwydd Tony Hall, wedi ymddiheuro fod yr ymchwiliad ym 1996 heb gyrraedd y safonau gofynnol.
“Dw i wedi darllen adroddiad yr Arglwydd Dyson, a dw i’n derbyn fod ein hymchwiliad 25 mlynedd yn ôl ar sut y gwnaeth Panorama sicrhau’r cyfweliad gyda’r Dywysoges Diana heb gyrraedd y gofynion,” meddai Tony Hall, a oedd yn gyfarwyddwr newyddion a materion cyfoes gyda’r BBC pan gafodd y cyfweliad ei ddarlledu.
“Wrth edrych yn ôl, roedd yna gamau pellach y gallen ni, ac y dylen ni, fod wedi’u cymryd yn dilyn cwynion am ymddygiad Martin Bashir.
“Roeddwn i’n anghywir i feddwl y gorau o ymddygiad Martin Bashir, ac i seilio’r farn honno, fel y gwnes i, ar yr hyn oedd yn ymddangos i fod yn edifarhad dwys ar ei ran ef.
“Trwy gydol fy ngyrfa o 35 mlynedd gyda’r BBC, dw i bob tro wedi ymddwyn mewn ffyrdd dw i’n credu oedd yn deg, a diduedd, a gyda lles y cyhoedd fel canolbwynt.
“Er nad yw’r Arglwydd Dyson yn cwestiynu fy ngonestrwydd, mae’n ddrwg gen i fod ein hymchwiliad wedi methu â chyrraedd y safonau oedd yn ofynnol.”
Deellir bod y BBC wedi ysgrifennu at y teulu brenhinol i ymddiheuro am yr amgylchiadau sy’n gysylltiedig â’r cyfweliad, a dychwelyd Bafta a gwobrau eraill a enillodd am y rhaglen.