Mi fydd Wally y Walrws yn gadael “gwaddol” ar ei ôl, ac mi fydd ei effaith bositif ar dwristiaeth yn Ninbych-y-Pysgod yn “para am dipyn”.

Dyna farn Chris Brookfield, sefydlydd AroundTenby.co.uk, sef yr hyn mae’n ei alw’n wefan dwristiaeth swyddogol y dref yn Sir Benfro.

Cafodd Wally y Walrws ei weld am y tro cyntaf yn nyfroedd Sir Benfro ar ddiwedd mis Mawrth, ac ers tua deufis mae wedi trin Dinbych-y-Pysgod yn gartref dros dro.

Bellach mae wedi cael ei weld yng Nghernyw, ac nid oes sicrwydd y bydd yn dychwelyd i’w ‘westy’ Cymreig.

Mae twristiaid wedi bod yn heidio i Ddinbych-y-Pysgod er mwyn gweld y creadur, ac mae Chris Brookfield yn pwysleisio bod y dref wedi elwa’n fawr – ac y bydd yn parhau i elwa – o’r ymweliad.

“Beth am fod yn onest – mae wedi helpu,” meddai wrth golwg360.

“Wnaeth pobol ddechrau ymddangos ar ôl i’r cyfyngiadau gael eu llacio. Roedd pobol yn neidio ar drenau ac yn mynd lawr yno – pobol o Gymru.

“Ond yna roedd pobol yng ngweddill y Deyrnas Unedig yn edrych ar gyfryngau cymdeithasol, ac yn dymuno mynd i lawr i weld Wally.

“Wrth gwrs mi [fydd pobol y dre] yn gweld ei eisiau,” atega. “Mae’r siopau’n llawn nwyddau â Wally arnyn nhw a llyfrau. Bydd ganddo waddol.

“Dw i’n credu y bydd yn para am dipyn – y gwaddol hwnnw.”

Mae dau ddyfrgi wedi ymddangos yn Ninbych-y-Pysgod yn ddiweddar, ac mae Chris Brookfield wedi cyffroi â hynny.

Wally a’r cyhoeddusrwydd

Bydd unrhyw ymwelydd â Dinbych-y-Pysgod yn rhyfeddu o weld cynifer o eitemau gydag wyneb Wally arnyn nhw – mae golwg360 wedi gweld bariau siocled a llieiniau sychu llestri.

Mae Chris Brookfield wrth ei fodd â’r cyhoeddusrwydd y mae Dinbych-y-Pysgod wedi ei dderbyn diolch i’r walrws.

“Os wnewch chi jest edrych ar y nwyddau Wally yn unig – faint o effaith mae hynny wedi ei gael ar fusnesau lleol,” meddai.

“Wnaethon nhw sylweddoli faint o ddylanwad roedd Wally yn ei gael ar yr ardal.

“Byddai’n costio ffortiwn i dalu am y marchnata a ddaw o luniau o Wally – sylw ar y teledu, sylw’r wasg, cyfryngau cymdeithasol.

“Felly, yn bendant, mae wedi cael effaith fawr gyda phobol yn dod lawr i’w weld. Pobol yn prynu nwyddau â Wally arnynt yn y siopau. Mae jest wedi bod yn hollol ffantastig.”

Pryderu am y morfarch

Dyfroedd rhewllyd yr Arctig yw cynefin naturiol walrws, ac mae lle i gredu ei fod wedi diweddu fyny yn ein dyfroedd cynhesach ninnau ar ddamwain.

Fe’i gwelwyd yn Iwerddon cyn iddo ddod i Gymru, am mae rhai’n credu y bu iddo gwympo i gysgu ar delpyn o rew – telpyn â’i gludodd tua dyfroedd mwy deheuol.

Mae Chris Brookfield yn ymwybodol bod Wally yn bell o’i deyrnas oer arferol, ac mae’n gofidio rhyw ychydig am ei gyflwr.

“Fyddech chi ddim eisiau ei golli,” meddai. “Ond mae’n rhaid meddwl am les yr anifail hefyd.

“Mae’n ffantastig ei fod yn mynd lawr i Gernyw, a’i fod wedi bod yn Ninbych-y-Pysgod. Ond rhywbeth sydd wedi gofidio pob un ohonom, a bydd yn rhaid i mi ffeindio mas mwy am hyn … yw a oeddwn yn gofalu am ei les?

“Ac oedd unrhyw gamau yn cael eu cymryd i … fynd ag ef yn ôl [i’w gynefin naturiol]? Dw i ddim yn gwybod sut mae hynny’n edrych o safbwynt lles yr anifail. Ond dw i’n tybio nad oedd hynna yn dda iddo. Mae wedi cyfarwyddo â phobol a dyw hynna ddim yn beth da!”

Y wefan

Mae Chris Brookfield yn byw yn Sir Gaer ac mae wedi bod yn ymweld â Dinbych-y-Pysgod am 46 mlynedd o’i fywyd.

Mae’r hen wefan Visit Tenby bellach wedi’i dirwyn i ben, ac wedi’i chyfuno â’r wefan dwristiaeth newydd. Mae Around Tenby yn cydweithio â Siambr Fasnach a Thwristiaeth y dref.

Walrws o’r Arctig ar arfordir Sir Benfro

‘Rwy’n credu mai dyma ein galwad cyntaf erioed at walrws’