Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi croesawu penderfyniad gan gynllunwyr y parc cenedlaethol i gymeradwyo ei gais am waith lliniaru llifogydd mawr ger Llyn Tegid.
Ddydd Mercher cyflwynwyd cais i aelodau Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i ddiogelu’r Bala rhag llifogydd posibl. Daeth hyn ar ol iddi ddod yn glir fod coed wedi gwanhau argloddiau ar ben gogleddol y llyn.
Ond ar ôl i aelodau’r pwyllgor cynllunio – yn dilyn cyngor swyddogion – gymeradwyo’r cynlluniau, gall y gwaith sylweddol fynd rhagddo. Mae’r prosect yn cynnwys cael gwared ar y rhan fwyaf o’r 290 o goed y canfuwyd eu bod wedi tyfu drwy neu ar ben yr argloddiau presennol, gyda’u gwreiddiau’n arwain at y gwanhau.
Er y dywedwyd bod amddiffynfeydd llifogydd effeithiol eisoes yn eu lle, roedd dirywiad yr argloddiau hyn wedi arwain at fwy o risg o niwed yn sgil llifogydd a gwyntoedd cryfion.
Mae llawer o’r coed sydd i’w symud wedi’u heintio â chlefyd coed ynn (Ash dieback), dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru y bydd ymdrechion yn cael eu gwneud i gadw coed sydd o “werth arbennig o uchel o ran y tirwedd”.
Manylion y gwaith
Mae’r gwaith arfaethedig hefyd yn cynnwys uwchraddio’r cerrig ar ochr flaen (neu ochr wlyb) y llyn, a mesurau lliniaru gan gynnwys plannu tua 900 o goed newydd a 350m o wrychoedd mewn mannau eraill, yn ogystal â gwneud gwelliannau i faes parcio Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ac i gefn Canolfan Hamdden Penllyn.
Hefyd, bwriedir uwchraddio rhai o’r llwybrau troed presennol y bydd y gwaith yn effeithio arnynt a gwneud gwelliannau i ardaloedd eistedd, ynghyd a byrddau gwybodaeth newydd.
“Mae argloddiau’r llyn yn rhoi amddiffyniad hanfodol rhag llifogydd i dref y Bala ac mae gennym gyfrifoldeb i sicrhau bod y dref yn parhau’n ddiogel,” meddai Sian Williams, pennaeth Gweithrediadau Gogledd Orllewin Cymru ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
“Rydym wedi bod yn trafod gyda phobl yn lleol dros y ddwy flynedd ddiwethaf i archwilio syniadau ar gyfer lliniaru a chyfleoedd cymunedol ehangach.
“Bydd y rhain yn cael eu datblygu ochr yn ochr â gwaith diogelwch y llyn, gan gynnwys gwella llwybrau a chreu cynefinoedd bywyd gwyllt newydd.”
“Tair gwaith yn fwy o goed”
“Ni ellir osgoi cael gwared ar goed fel y gallwn gryfhau’r argloddiau. Ond rydym wedi ymrwymo’n llwyr i gadw cymaint o goed aeddfed â phosibl a byddwn yn plannu tair gwaith yn fwy o goed yn lleol nag y mae’n rhaid i ni gael gwared arnynt.”
Yn dilyn cymeradwyo’r cais cynllunio, dywedodd Sara Thomas, swyddog cynllunio yn Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri: “Fel awdurdod rydym yn falch o gefnogi’r cynllun hanfodol hwn a fydd yn y pen draw yn diogelu tref Y Bala ac ardaloedd eraill ar hyd Afon Dyfrdwy rhag llifogydd.
“Mae’n destun gofid bod y cynllun yn golygu colli coed sydd wedi sefydlu ar hyd yr arglawdd, ond rydym yn hyderus y bydd y mesurau lliniaru sy’n cynnwys plannu tair coeden ar gyfer pob un a gollir, yn y pen draw, yn gwella’r amgylchedd naturiol ac yn creu cynefin newydd ar gyfer bywyd gwyllt lleol.”
Disgwylir y byddai’r gwaith yn dechrau’r haf hwn ac yn cymryd tua dwy flynedd i’w gwblhau.