Mae Llywydd NFU Cymru wedi tynnu sylw at Fynydd Epynt wrth rannu ei bryderon ynghylch dêl masnach ag Awstralia.

Yn ôl adroddiadau mae gweinidogion San Steffan yn rhanedig, gydag un garfan yn awyddus i fwrw ati â dêl masnach lle na fyddai tariffau yn cael eu codi ar gig o Awstralia.

Mae undebau amaeth wedi codi pryderon am y cynllun yma gan ddadlau y byddai ffermwyr y Deyrnas Unedig yn cael trafferth cystadlu â chynnyrch rhatach.

Ac mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi cydnabod wrth y BBC fod cadarnleoedd y Gymraeg dan fygythiad gan y cytundeb posib, a dweud ei fod yn poeni yr “effaith ar ddyfodol ein cymunedau” ac ar hunaniaeth “cadarnleoedd Cymraeg”.

Dywedodd wrth Today ar Radio 4 fod “y pethau sy’n gwneud Cymru’n Gymru … yn y fantol”.

Epynt

John Davies yw Llywydd NFU Cymru, ac mae yntau’n ffermio ym Merthyr Cynog, sydd i’r de i Fynydd Epynt ym Mannau Brycheiniog.

Yn 1939 gorfodwyd cannoedd o ffermwyr Cymraeg eu hiaith, a fu’n ffermio ar y mynydd, i symud oddi yno er mwyn creu maes tanio i’r Weinyddiaeth Amddiffyn.

Cyfeiria John Davies at hyn wrth rannu ei bryderon y gallai ffermwyr Cymru, a chymunedau gwledig, gael trafferth ymdopi dan ddêl di-dariff ag Awstralia. A’r awgrym yw y gallai cymunedau gwledig Cymreig ddiflannu.

“Mi fyddai [gan ddêl di-dariff] oblygiadau difrifol iawn,” meddai wrth golwg360.

“Rydych yn dod at ryw bwynt lle’r ydych yn colli eich swm allweddol [o ffermwyr] a does dim troi yn ôl. Ac mae’n hynod bwysig.

“Dw i’n arwain cangen Clwb Ffermwyr Ifanc, dw i wedi hyfforddi’r clwb rygbi lleol, dw i’n aelod o’r capel ac o’r cyngor cymuned lleol. Mae angen cefn gwlad byw arnom.

“Wnaethom golli hanner y gymuned ym Merthyr Cynog i Epynt yn 1939. Dw i wedi gweld, a’m llygaid fy hun, yr effaith yna ar iaith.

“Dyna pam nad oes siaradwyr Cymraeg ym Merthyr Cynog. Cafodd ei Seisnigeiddio dros nos. Dw i ddim yn barod i dderbyn [rhywbeth arall tebyg i] hynny.”

Gofidion am y ddêl

Mae John Davies yn egluro ei fod yn hapus â’r syniad o gyfaddawdu rhywfaint ag Awstralia, ond mae’n pwysleisio bod angen ymwrthod rhag dêl hollol di-dariff.

“Os edrychwch chi ar Awstralia, nhw yw allforwyr cig defaid mwyaf y byd,” meddai. “A nhw yw’r allforwyr cig eidion mwyaf, yn ôl gwerth. Felly mae ganddyn nhw’r gallu i achosi difrod go iawn.

“Os wnawn ni weithio gyda’n gilydd, ac os wnawn ni weithredu mewn ffordd synhwyrol, rydym yn barod i gynyddu’r cwotâu sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd.

“Ond yn amlwg dydyn ni ddim yn barod i symud at sefyllfa hollol rydd lle does dim rheolau o gwbl, sy’n sicrhau balans, nac ychwaith rheolau at y dyfodol.

“Ac mae’n ymddangos i mi mai dyna yw’r sefyllfa ar hyn o bryd. Hynna, neu dim byd.”

Mae’n debyg bod Llywodraeth San Steffan yn awyddus i daro dêl ag Awstralia erbyn mis Mehefin, ac mae hynny’n “pryderu” y Llywydd.

“Mae trafodaethau masnach fel arfer yn cymryd degawdau – neu o leia’ tipyn o flynyddoedd – nid misoedd,” meddai.

‘Prydain fydol’

Mewn darn i’r Mail Online mae Llywydd yr NFU ledled y Deyrnas Unedig, Minette Batters, yn cyfeirio yn barhaus at Seland Newydd â’r bygythiad y gall dêl a’r wlad honno beri.

Er bod gan Seland Newydd enw am ei chig oen, a’i bod yn cystadlu â ffermwyr Cymru yn hynny o beth, mae John Davies yn pwysleisio mai Awstralia yw’r prif fygythiad.

Wedi’r cwbl “Awstralia sydd â’r ddiadell fwyaf”, meddai.

Er hynny mae’n cydnabod bod rhagor o gytundebau masnach i ddod gyda gwledydd mawr megis yr UDA a Brasil, ac y gallai’r rhain beri bygythiad i amaeth yng Nghymru.

Mae yna ganfyddiad poblogaidd bod ffermwyr wedi cefnogi Brexit, ac felly eu bod yn rhannol gyfrifol am y sefyllfa anodd maent yn ei wynebu bellach.

Mae John Davies yn gwrthod y canfyddiad hynny, gan bwysleisio bod “dim tystiolaeth” a “dim ystadegau go iawn” sy’n dangos bod ffermwyr wedi cefnogi Brexit yn fwy nag unrhyw broffesiwn arall.

Er iddo bleidleisio yn erbyn Brexit mae’n teimlo bod yn “rhaid trïo gwneud y gorau ohono”.

“Gyda’r Prydain fydol (‘global Britain’) yma mae’r holl sôn am adfer rheolaeth tros bethau,” meddai. “Wel, rhaid gwneud yn siŵr ein bod ni’n adfer rheolaeth tros bethau.”

“Canlyniadau niweidiol”

Yn y cyfamser, mae Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru wedi codi pryderon ynghylch y cytundeb mewn cyfarfod gyda Gweinidog Masnach y Deyrnas Unedig.

“Y gwir amdani yw y bydd cytundeb sy’n cynnig mynediad rhydd i farchnad y Deyrnas Unedig ar gyfer cig eidion a chig oen Awstralia yn benodol yn cyfateb i ostwng safonau, ac yn arwain at ganlyniadau niweidiol i ffermwyr y Deyrnas Unedig,” meddai Glyn Roberts ar ôl cwrdd â Greg Hands AS.

“Er efallai na fydd hyn yn bryder uniongyrchol o ystyried allforion cyfredol i’r Deyrnas Unedig, mae’n rhaid i ni edrych ar yr hyn a allai ddigwydd yn y dyfodol – wedi’r cyfan, pe na bai Awstralia’n credu y byddent yn cynyddu allforion bwyd i’r Deyrnas Unedig yn sylweddol ar ryw adeg, ni fyddent yn ymladd mor galed i sicrhau ei fod mewn cytundeb masnach.

“Mae araith y Frenhines newydd ailadrodd cynlluniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig i dynhau rheolau symud anifeiliaid, ac mae Cymru’n edrych ar ddilyn yr un trywydd.

“Ar hyn o bryd, ein hamser teithio uchaf ar gyfer anifeiliaid yw wyth awr, ond yn Awstralia mae hi’n bedwar deg wyth awr – chwe gwaith yn uwch,” esboniodd.

“Mae pryderon eraill yn cynnwys y gwahaniaethau sylweddol rhwng gofynion olrhain anifeiliaid, o ystyried y byddai’r hyn a ganiateir yn Awstralia yn gwbl anghyfreithlon yma.”

Gweinidogion yn cwmpo mas

Yn ei hanfod mae Llywodraeth San Steffan wedi’i rhannu’n ddwy garfan gyda Liz Truss, yr Ysgrifennydd Masnach Ryngwladol, ar un ochr, a Michael Gove, gweinidog Swyddfa’r Cabinet, a George Eustice, Ysgrifennydd yr Amgylchedd, ar yr ochr arall.

Mae carfan Liz Truss eisiau bwrw ati gyda dêl di-dariff, tra bod y garfan arall yn gofidio am y goblygiadau i ffermwyr y Deyrnas Unedig.

Bydd gweinidogion yn trafod heddiw gan obeithio dod â diwedd i’r anghydfod.

Mae NFU Cymru wedi anfon llythyr at Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart, yn galw arno i sefyll cornel Cymru.

Yn ôl rhagolygon Llywodraeth San Steffan byddai cytundeb masnach rydd yn gyfystyr â 0.01-0.02 yn rhagor o GDP (Cynnyrch Domestig Gros) dros 15 mlynedd.