Mae Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, bellach wedi cyhoeddi pa feysydd bydd ei Aelodau o’r Senedd yn canolbwyntio arnyn nhw.

Mae saith o AoSau y grŵp yn newydd-etholedig, ac felly yn naturiol mae’r hen do wedi derbyn rhai o’r portffolios trymaf.

Rhun ap Iorwerth fydd llefarydd y Blaid tros ‘Iechyd a Gofal Cymdeithasol’, a Siân Gwenllian fydd y llefarydd tros ‘Addysg a’r Gymraeg’.

Mae’r ddau AoS yma wedi bod yn gyfrifol am y portffolios yma yn y gorffennol, ac mae’r ddau hefyd wedi’u penodi’n Ddirprwy Arweinyddion.

Llŷr Huws Gruffydd fydd yn gyfrifol am ‘Gyllid a Llywodraeth Leol’, a Delyth Jewell fydd yn gyfrifol am ‘Newid Hinsawdd, Ynni a Thrafnidiaeth’. Mae’r ddau yma hefyd o’r ‘hen do’.

Fodd bynnag, yr AoS newydd, Luke Fletcher, fydd yn llefaru ar ran y blaid tros ar yr economi – portffolio dwys a heriol.

Cyhoeddwyd portffolios gweinidogol Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, wythnos ddiwetha’.

AoSau newydd

Mae’r sawl un o’r AoSau newydd eraill wedi derbyn portffolios sydd yn cyd-fynd â’u profiadau y tu allan i’r Senedd.

Rhys ab Owen yw’r llefarydd tros ‘Gyfansoddiad a Chyfiawnder’ – roedd yntau’n fargyfreithiwr ac ynghlwm â gwaith Comisiwn Thomas ar ddatganoli cyfiawnder i Gymru.

Cefin Campbell yw’r llefarydd tros ‘Amaethyddiaeth a Materion Gwledig’ – roedd yn gyfrifol am y meysydd yma yn aelod o gabinet Cyngor Sir Gaerfyrddin.

Yn achos Mabon ap Gwynfor, ef yw’r llefarydd tros ‘Dai a Chynllunio’. Fe yw AoS Dwyfor Meirionnydd, sedd sydd wedi’i heffeithio’n gryf gan yr argyfwng tai haf.

Rhestr lawn

  • Adam Price: Arweinydd
  • Rhys ab Owen: Cyfansoddiad a Chyfiawnder
  • Llyr Huws Gruffydd: Cyllid a Llywodraeth Leol
  • Luke Fletcher: Economi
  • Heledd Fychan: Diwylliant, Chwaraeon a Materion Rhyngwladol
  • Cefin Campbell: Amaethyddiaeth a Materion Gwledig
  • Sioned Williams: Cyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb
  • Delyth Jewell: Newid Hinsawdd, Ynni a Thrafnidiaeth
  • Mabon ap Gwynfor: Tai a Chynllunio
  • Sian Gwenllian: Addysg a’r Gymraeg, Plant a Phobl Ifanc, Prif Chwip, a Dirprwy Arweinydd
  • Rhun ap Iorwerth: Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Comisiynydd Senedd, a Dirprwy Arweinydd
  • Peredur Owen Griffiths: Cymunedau a Phobl Hŷn
  • (Elin Jones): (Llywydd)

“Tîm unedig”

“Rwy’n falch o arwain tîm unedig gyda’r sgiliau, y profiad a’r syniadau ffres sydd eu hangen i ddwyn Llywodraeth Lafur Cymru i gyfrif, yn adeiladol ond yn fforensig,” meddai Adam Price.

“Mae Cymru bellach yn cychwyn ar gyfnod tyngedfennol o adfer o’r pandemig. Bydd y camau y mae Llywodraeth Lafur Cymru yn eu cymryd nawr yn diffinio dyfodol ein cenedl ar gyfer y genhedlaeth nesaf.

“Dyna pam rwy’n benderfynol y bydd tîm Senedd Plaid Cymru yn craffu ar bob cyhoeddiad a darn o ddeddfwriaeth gyda’r manylder sydd ei angen.”