Mae astudiaeth gan ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe yn dangos bod damcaniaethau cynllwyn (conspiracy theories) a diffyg ymddiriaeth mewn llywodraeth ymhlith y ffactorau sy’n arwain at oedi gyda’r brechlyn.

Dywed yr astudiaeth fod pobol yn gwybod y gallent gael eu brechu rywbryd ond eu bod yn gwrthod mynd nes bod ganddynt fwy o wybodaeth neu hyd nes y bydd angen iddynt wneud hynny, er enghraifft er mwyn gallu teithio.

Mae’r astudiaeth hefyd wedi canfod mai pasbortau brechu oedd un o’r ffactorau a allai annog rhai o’r bobol sy’n gohirio’r penderfyniad i gael eu brechu ai peidio.

Fe’i cyhoeddwyd ar MedRxiv, safle a sy’n cael ei ddefnyddio gan ymchwilwyr i rannu canfyddiadau newydd ar faterion amserol cyn iddynt gael eu hadolygu i’w cyhoeddi.

Yn gyffredinol, roedd teimladau cadarnhaol tuag at frechlynnau yn uchel. Fodd bynnag, canfu’r astudiaeth fod cyfran sylweddol (41%) o’r rhai a gymerodd ran, gan gynnwys oedolion iau, yn dal yn ansicr ynghylch brechlynnau a gallent fod yn gohirio eu penderfyniad i gael eu brechu.

Ond mae’n bosibl nad oes angen pryderu ynghylch pobol yn torri rheolau ar ôl cael brechlyn.

Ymhlith y rhai a oedd eisoes wedi cael un neu ddau ddos o’r brechlyn, ychydig a ddywedodd eu bod wedi newid mewn ymddygiad iechyd megis gwisgo masgiau a phellter cymdeithasol.

“Cyfran sylweddol yn dal yn ansicr” am y brechlyn

Mae’r astudiaeth ‘Barn y Cyhoedd am Pandemig COVID-19’ yn cael ei arwain gan Dr Simon Williams a Dr Kimberly Dienes o Brifysgol Abertawe, mewn cydweithrediad â’r Athro Christopher Armitage o Brifysgol Manceinion a Dr Tova Tampe, ymgynghorydd annibynnol yn Sefydliad Iechyd y Byd.

Mae’r ymchwilwyr wedi bod yn cynnal grwpiau ffocws ac arolygon ar-lein gyda phobol o bob rhan o’r Deyrnas Unedig drwy gydol pandemig COVID-19 i archwilio eu barn a’u profiadau.

Dywedodd Dr Simon Williams: “Mae cyflymder a graddau’r nifer sy’n manteisio ar frechlynnau yn y Deyrnas Unedig wedi bod yn rhyfeddol.

“Fodd bynnag, er i ni ganfod bod llawer o bobol, gan gynnwys oedolion iau, yn teimlo’n gadarnhaol tuag at gael brechlyn, mae cyfran sylweddol yn dal yn ansicr ac yn teimlo bod angen mwy o amser arnynt i benderfynu.

“A chyda phryder ynghylch amrywiolyn India, nid mater o faint o bobol fydd yn cael eu brechu ydyw yn y pen draw, ond hefyd pa mor gyflym y byddant yn penderfynu [gwneud hynny].”

Galw ar wleidyddion i “gydnabod pryderon ac awydd pobol i oedi”

Ychwanegodd Dr Kimberly Dienes: “Yn ôl eu cyfaddefiad eu hunain, roedd rhai yn gohirio’r penderfyniad i gael brechlyn nes ei fod yn ‘angenrheidiol’.

“Roedd y rhain yn credu bod pasbortau brechu yn rhywbeth a fyddai, yn anochel, yn dylanwadu ar eu penderfyniad.

“Roedd rhai yn galw pasbortau brechlynnau yn bethau dieflig oedd yn gorfod digwydd, tra bod eraill yn eu gweld fel arwydd y gallai gweithgaredd fod yn ddiogel.

“Dylai gwleidyddion gydnabod pryderon ac awydd pobol i oedi fel pryderon dilys – a gweithio ar ffyrdd o ddeall oedi a’i leihau drwy sicrhau a chyfathrebu.”