Mae adroddiad newydd gan Chwarae Teg yn dweud fod y pandemig wedi bod yn waeth i famau sengl a merched hunangyflogedig yng Nghymru.

Cafwyd dros 1,000 o ymatebion gan ferched i arolwg a gynhaliwyd gan yr elusen sy’n hybu hawliau merched, gan rannu eu profiadau o Covid-19 a’r cyfnod clo.

Datgelodd yr arolwg mai merched oedd yn bennaf yn gyfrifol am ofal plant ac addysgu gartref, gan effeithio ar eu gallu i weithio ac ar eu hiechyd a’u llesiant.

Dywed fod rhagdybiaethau ar sail rhywedd o fewn y cartref a chan gyflogwyr wedi methu ag ystyried profiadau merched a’r heriau a brofodd menywod yn ystod y cyfnod clo.

Daw i’r casgliad na rannwyd pwysau’r argyfwng yn hafal.

Roedd effeithiau iechyd ac economaidd yr argyfwng yn fwy tebygol o effeithio ar rai grwpiau o fenywod yn benodol, gan gynnwys rhieni sengl, menywod croenliw, menywod ar incwm isel, a menywod hunangyflogedig.

Mae’r adroddiad, “Jyglo Cyson o Ddydd i Ddydd”: Gofal Plant ac Addysgu Gartref yn ystod y Cyfnod Clo Cyntaf, yn galw am weithredu i sicrhau nad yw unrhyw gyfnodau clo pellach neu dynhau cyfyngiadau’n golygu bod menywod dan anfantais

Mae hefyd yn galw am fynd i’r afael â’r materion a olygodd bod merched yn fwy agored i brofiadau negyddol yn y lle cyntaf.

“System simsan”

“Bydd y profiadau a ddisgrifiwyd gan fenywod yn ein hadroddiad Jyglo Cyson o Ddydd i Ddydd yn taro tant gyda llawer ohonom. Yn anffodus, nid ydynt yn annisgwyl,” meddai Cerys Furlong, Prif Weithredwr Chwarae Teg.

“Mae’r pandemig hwn wedi datgelu difrifoldeb anghyfartaledd rhywedd, ac wedi gwaethygu’r sefyllfa.

“Mae’r profiadau anodd hyn yn deillio o fethiant ar y cyd i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol anghyfartaledd rhywedd, ac i sicrhau bod y broses o wneud penderfyniadau yn ymateb i anghenion a phrofiadau menywod.

“Mae ystrydebau rhywedd yn golygu bod menywod yn dal i gael eu gweld fel gofalwyr yn gyntaf.

“Rydym wedi derbyn system simsan o ofalu am blant, un sy’n dibynnu ar waith di-dâl menywod, a hynny am gyfnod rhy hir o lawer.

“Erys gwaith yn anhyblyg i lawer, sy’n creu tensiwn o ran cyfrifoldebau eraill yn y cartref ac ar ddechrau’r pandemig roedd gormod o fenywod eisoes mewn sefyllfa ariannol fregus o ganlyniad i dlodi, cyflog isel a gwaith ansicr.”

“Allwn ni ddim fforddio i’r anghydraddoldeb hwn barhau”

Ychwanegodd Cerys Furlong: “Wrth i ni barhau i lywio’r pandemig hwn a symud tuag at adferiad mae’n rhaid i ni sicrhau nad yw unrhyw gyfyngiadau pellach yn rhoi menywod dan anfantais, gan sicrhau mynediad at gymorth gofal plant lle bynnag y bo modd naill ai drwy fynediad at rwydweithiau cymorth anffurfiol neu fynediad at ofal plant ffurfiol.

“A rhaid i ni hefyd sicrhau bod timau amrywiol yn cymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau fel bod profiadau ac anghenion menywod yn cael eu hystyried.

“Bydd angen gweithredu hefyd i fynd i’r afael â’r achosion sylfaenol a adawodd menywod mewn mwy o berygl yn ystod y pandemig.

“Rhaid sicrhau bod gofal wrth wraidd ein hadferiad, rhaid buddsoddi llawer mwy yn ein system gofal plant, rhaid cael cynllun cynhwysfawr er mwyn mynd i’r afael â thlodi a chaledi ariannol a llawer mwy o fynediad at waith hyblyg a chynhwysol.

“Mae’r pandemig wedi dysgu sawl gwers i ni. Un o’r rhai mwyaf llym yw pris anghydraddoldeb.

“Wrth i ni adfer ac ailadeiladu, allwn ni ddim fforddio i’r anghydraddoldeb hwn barhau.”