Mae Safonau Masnach Cymru wedi cael eu hysbysu am dwyll ar ffurf neges destun sy’n ymwneud â’r Cyfrifiad.

Mae’r neges yn dweud wrth bobol fod gwybodaeth ar goll o’u ffurflen Cyfrifiad, ac yn gofyn iddyn nhw glicio ar ddolen er mwyn ei chwblhau – fel arall, byddan nhw’n cael eu herlyn.

Wrth glicio ar y ddolen, mae pobol yn cael eu cyfeirio at wefan sy’n edrych yn union yr un fath â ffurflen ar-lein y Cyfrifiad.

Bydd y wefan yn gofyn i’r person dalu ffi o £1.25 wrth lenwi a chyflwyno’r ffurflen wedyn.

“Problem ddifrifol”

“Mae galwadau a negeseuon twyllodrus i ffonau symudol yn broblem ddifrifol,” meddai Helen Picton, cadeirydd Gwasanaeth Safonau Masnach Cymru.

“Does dim byd cyfwerth â rhwystr galwadau ffôn llinell dir ar gyfer ffonau symudol er mwyn eu hatal rhag eich cyrraedd.

“Mae rhai o’r negeseuon hyn yn argyhoeddiadol iawn.

“Cofiwch, ni fyddai unrhyw asiantaeth llywodraeth yn anfon neges atoch yn mynnu arian trwy neges destun neu drwy neges ffôn awtomataidd.

“Os yw cwmni’n anfon dolen atoch trwy neges destun yn gofyn i chi glicio arni, dylech ei hanwybyddu.

“Os ydych yn ansicr gan fod gennych gyfrif gyda’r cwmni hwnnw, cysylltwch â nhw’n uniongyrchol a pheidiwch â defnyddio’r ddolen a ddarperir.”

Cyngor

Mae Safonau Masnach Cymru’n dweud fod rhai pethau y gallwch eu gwneud i leihau nifer y galwadau a negeseuon testun twyllodrus sy’n eich cyrraedd.

Er enghraifft, mae modd rhwystro rhifau ffôn penodol a chofrestru gyda’r Gwasanaeth Dewis Galwadau Ffôn.

Yn ogystal, maen nhw’n dweud wrth bobol sy’n derbyn negeseuon fel hyn i roi gwybod i’r Ganolfan Seibrddiogelwch Genedlaethol, a chysylltu â Chanolfan Gyswllt Cyfrifiad 2021.