Mae mewnlifiad o Loegr yn ei gwneud hi’n fwy anodd i’r Democratiaid Rhyddfrydol ennill etholiadau yng Nghymru, yn ôl un cyn-Aelodau Cynlluniad y blaid, sy’n dweud bod angen i’r blaid fod yn fwy dwyieithog hefyd.
Yn ôl Peter Black, fu’n cynrychioli De Orllewin Cymru yn y Senedd (y Cynulliad ar y pryd), mae sawl rheswm dros fethiant y Democratiaid Rhyddfrydol yn ystod etholiad y Senedd fis diwethaf.
Dim ond un sedd y gwnaeth y blaid lwyddo i’w hennill, gyda Jane Dodds, arweinydd y blaid yng Nghymru, yn cael ei hethol ar restr ranbarthol y Canolbarth a’r Gorllewin.
Er bod y blaid wedi buddsoddi mewn gweithwyr ac adnoddau ymgyrchu, roedd yna fethiant i gynllunio negeseuon, creu gweledigaeth nodweddiadol, ac i fynd i’r afael â materion cyfundrefnol, meddai Peter Black.
Collodd y Democratiaid Rhyddfrydol £33,000 mewn blaendaliadau, ac yn ôl Peter Black, mae’r mewnlifiad o bleidleiswyr o Loegr wedi’i gwneud hi’n fwy anodd ennill etholiadau.
Mater arall sy’n cael ei grybwyll ganddo yw’r diffyg dealltwriaeth o’r gwahaniaeth rhwng ymgyrchu mewn etholaethau a rhanbarthau.
Mewnlifiad
Cafodd etholaeth Brycheiniog a Maesyfed ei chipio oddi wrth y Democratiaid Rhyddfrydol gan y Ceidwadwyr yn yr etholiad, a dywed Peter Black fod yr ardaloedd Rhyddfrydol traddodiadol wedi newid.
“Mae mewnlifiad mawr o bleidleiswyr Seisnig, a thorri lawr patrymau pleidleisio tactegol ar ôl y glymblaid, wedi’i gwneud hi’n anoddach ennill y seddi hyn,” meddai.
“Yn ogystal, nid oes llawer o ymgyrchu yn yr ardaloedd hyn yn ystod y flwyddyn, a gwaith prin tu allan i gyfnod etholiadau mewn rhannau lle mae Llafur yn gryf, sy’n ei gwneud hi’n fwy anodd i ni berswadio pleidleiswyr ein bod ni’n ddewis gwahanol posib i’r Torïaid.”
Gan ddweud fod yna ymdrech amlwg i ganolbwyntio ar y ddau ranbarth mwyaf addawol, sef y Canolbarth a’r Gorllewin, a Chanol De Cymru, dywed Peter Black fod yna “ddiffyg parhaus” gan y blaid i ddeall sut mae ymgyrchu ar y rhestrau rhanbarthol o gymharu ag ymgyrchu mwy traddodiadol mewn etholaethau.
“Roedd hi’n amlwg hefyd nad oedd gan y blaid glem ynghylch pa bleidleiswyr roedden nhw’n eu targedu, pa negeseuon fyddai’n fwyaf effeithiol i ennill pleidleisiau yn yr etholiadau hyn, a sut i ddefnyddio’r adnoddau oedd gennym ni.”
“Cofleidio diwylliant Cymreig”
Yn ôl Peter Black, cafodd Jane Dodds ei hethol drwy lwc yn fwy na dyfarniad da, a dywed nad oedd slogan y blaid – ‘Rhoi Adferiad yn Gyntaf’ – yn ddigon “nodweddiadol”.
Er mwyn gwella ar gyfer yr etholiad nesaf, mae’r cyn-Aelod Cynulliad yn awgrymu y dylid creu “gweledigaeth neilltuol” gan gofleidio’r diwylliant Cymreig yn Gymraeg a Saesneg.
“Fydd datblygu gweledigaeth neilltuol, fel gall y blaid Gymreig uno o’i amgylch, ddim yn hawdd ond dylai gofleidio ymrwymiad i gyfiawnder cymdeithasol a rhyngwladoldeb, dinasyddiaeth, cymuned a dylai gofleidio’r diwylliant Cymreig yn y ddwy iaith,” ychwanega.
“Ond yn bennaf, rydyn ni angen ailadeiladu capasiti ymgyrchu dros Gymru, sy’n cael ei arwain a’i gyflenwi gan y blaid yng Nghymru.”