Mae adroddiadau bod Llywodraeth Sbaen yn barod i roi pardwn i arweinwyr ymgyrch annibyniaeth Catalwnia, ond bydd modd ei wyrdroi ac fe fydd yn cael ei gyflwyno’n dawel fach er mwyn tawelu ymateb y cyhoedd.
Cafodd nifer o arweinwyr gwleidyddol eu carcharu a’u cosbi am eu rhan yn yr ymgyrch i gael refferendwm yn 2017, ond roedd Llywodraeth Sbaen yn gwrthod cydnabod y canlyniad gan ddweud ei fod yn anghyfansoddiadol.
Mae disgwyl i’r broses o roi pardwn gael ei chymeradwyo yng nghyfarfod y Cabinet ddechrau mis nesaf, ond mae rhai yn awgrymu y byddai’n well ei chyflwyno yn ystod gŵyl banc mis Awst fel y byddai’n cael llai o sylw ymhlith y cyhoedd.
Mae disgwyl i ddwy wrthblaid, Plaid y Bobol a Vox, wrthwynebu’r pardwn mewn her gyfreithiol ac mae’r llywodraeth yn gofidio y gallai’r broses gael ei gwyrdroi yn y llysoedd, rhywbeth a fyddai’n gryn ergyd i’r llywodraeth wrth iddyn nhw geisio apelio ar ymgyrchwyr tros annibyniaeth.
Mae’r Goruchaf Lys eisoes wedi gwrthod rhoi pardwn yn y gorffennol ac yn ôl y papur newydd El País, byddai cynlluniau’r llywodraeth yn golygu dileu dedfrydau’r rhai a gafodd eu carcharu, ond fe allai gael ei wyrdroi pe baen nhw’n ‘troseddu’ eto.
Cafodd yr arweinwyr eu carcharu am naw i 13 o flynyddoedd a’u hatal rhag bod mewn swydd gyhoeddus eto, ac mae disgwyl i’r gwaharddiadau hynny aros.
Ond mae disgwyl i’r llywodraeth ostwng y ddedfryd am y drosedd o annog terfysg.
Yn y cyfamser, bydd rali ym Madrid ar Fehefin 13 er mwyn gwrthwynebu’r pardwn.