Mae un o gynghorwyr gwyddonol Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ailadrodd yr alwad i ohirio codi cyfyngiadau Covid-19 ar Fehefin 21 yn Lloegr.

Mae’r Athro Ravi Gupta yn rhybuddio bod gallu’r coronafeirws i addasu wrth wynebu brechlynnau yn golygu bod y Deyrnas Unedig yn parhau i fod mewn sefyllfa fregus.

Ers i’r amserlen ar gyfer llacio’r cyfyngiadau gael ei ffurfio, mae’r darlun yn y Deyrnas Unedig wedi newid, meddai, yn bennaf yn sgil amrywiolyn Delta (India).

Yn ogystal, rhybuddia y gallai’r cynnydd mewn cymdeithasu wedi i’r cyfyngiadau gael eu llacio fis diwethaf arwain at “dipyn” o dderbyniadau i ysbytai.

Er bod gwledydd Prydain wedi gwneud yn “anhygoel o dda” gyda’u rhaglenni brechu, dywed Ravi Gupta ei bod hi’n rhy gynnar i “roi’r brechlyn yn erbyn y feirws”.

Dywedodd Ravi Gupta wrth Good Morning Britain y gallai symud y dyddiad, Mehefin 21, yn ei ôl gael effaith sylweddol ar y frwydr yn erbyn y pandemig, gan ychwanegu y byddai hyn yn fesur dros dro yn seiliedig ar ddatblygiadau diweddar.

Ledled y Deyrnas Unedig, mae 39m o bobol wedi cael eu dos cyntaf, a 25.3m wedi cael y ddau ddos.

‘Ailasesiad’

Byddai gohirio codi’r cyfyngiadau am fis yn cael “effaith fawr ar y canlyniad yn y pen draw”, meddai Ravi Gupta.

“Cyn belled â’i bod hi’n glir i bobol nad yw hyn yn estyniad di-derfyn i’r cyfnod clo ond yn ailasesiad yn unig, byddai hynny yn realistig,” meddai.

“Nid oedd gennym ni gynllun ar gyfer yr amrywiolyn 617.2 pan gafodd yr amserlen wreiddiol ei ffurfio ac, â dweud y gwir, mae pethau wedi mynd yn dda iawn oni bai am y ffaith fod gennym ni’r amrywiolyn newydd yma i gymhlethu pethau.

“Mae’n rhaid i ni gofio bod y feirws yma yn addasu ac wrth wynebu brechlynnau, bydd yn dechrau gwneud mwy o newidiadau er mwyn eu hosgoi nhw ac wedyn, gallen ni fod mewn sefyllfa hyd yn oed mwy ansicr ar ôl hynny.”

“Bron yno”

Ychwanega fod y rhaglen frechu yn y Deyrnas Unedig mewn “lle da iawn”, ond ei bod hi’n bwysig bod yn ofalus.

“Rydyn ni bron yno, dyna’r peth allweddol,” meddai Ravi Gupta.

“Ond y broblem yw: dydyn ni ddim eisiau rhoi’r brechlyn yn syth yn erbyn y feirws ar adeg pan nad yw gwarchodaeth y brechlyn yn ddigon uchel; dyw e ddim mewn pobol ifanc, dyw e ddim mewn plant ysgol, a dyna le mae potensial i’r feirws ddechrau lledaenu.

“Mae gennym ni lawer o bobol fregus yn y gymuned sydd heb ymateb i’r brechlyn o hyd.”

Gan gyfeirio at y dyddiad targed ar gyfer llacio’r cyfyngiadau yn Lloegr, dywed y bydd cryn gymysgu dros yr wythnosau nesaf.

“Os ydyn ni’n cael gormod o gymysgu, yn enwedig ymysg grwpiau ieuengach, bydd hynny’n arwain at rai derbyniadau i ysbytai… dipyn, ar adeg pan mae’r Gwasanaeth Iechyd yn trio ymbellhau o fewn ysbytai, felly mae’n cymryd peth amser i wneud pethau yno, a bydd y pwysau ychwanegol o gael achosion Covid, rhai a fydd yn ddifrifol wrth gwrs, yn cael effaith ar ysbryd a gofal clinigol i bawb.”