Bydd gweithwyr y DVLA yn mynd ar streic yfory mewn anghydfod ynghylch diogelwch sy’n gysylltiedig â Covid.

Bydd aelodau undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PCS) ar safle yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau yn Abertawe yn cerdded allan yfory (dydd Mawrth, Mai 4) ac yn streicio am bedwar diwrnod yn dilyn gweithredu diwydiannol fis diwethaf.

Mae’r undeb yn galw am ostyngiad yn nifer y staff sydd angen mynd i mewn i’r swyddfa i weithio ar ôl i bryderon gael eu codi yn dilyn nifer o achosion coronafeirws yn y gweithle.

Dywedodd yr undeb, er gwaethaf trafodaethau helaeth i ddatrys yr anghydfod, fod y DVLA yn mynnu bod rhagor na 2,000 o bobl yn mynd i’r swyddfa yn Abertawe bob dydd.

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol PCS Mark Serwotka: “Ymddygiad afresymol ac anneallus uwch reolwyr DVLA sydd wedi arwain at y streiciau diweddaraf.

“Mae angen i’r DVLA a gweinidogion ddeall lefelau ofn, dicter a phenderfyniad yn y gweithle ac y bydd ein hundeb yn cefnogi staff bob cam o’r ffordd yn eu brwydr am setliad.”

 

Dywedodd llefarydd ar ran y DVLA ei bod yn siomedig bod y PCS yn bwrw ymlaen gyda ail rownd o weithredu diwydiannol, gan ychwanegu bod achosion o Covid-19 ymhlith staff y DVLA yn parhau’n isel iawn.

“Mae’r DVLA wedi sicrhau ei fod wedi dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ar bob pwynt drwy gydol y pandemig ar ôl gweithio’n gyson gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, Iechyd yr Amgylchedd a Bwrdd Iechyd Bae Abertawe i gyflwyno ystod eang o fesurau diogelwch.”

Gwasanaethau

Mae hyn wedi galluogi staff DVLA i barhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol i’r cyhoedd ledled y DU mewn ffordd ddiogel Covid-19.

“Bydd gwasanaethau ar-lein DVLA yn gweithredu fel arfer yn ystod y cyfnod hwn o streicio ac rydym yn cynghori cwsmeriaid i ddefnyddio’r rheini lle bynnag y bo modd.

“Mae’r rhai sy’n postio ceisiadau papur i DVLA neu sy’n ceisio cyrraedd ein canolfan gyswllt yn debygol o brofi oedi.”