Mae meddyg teulu “wrth ei fodd” ar ôl i Sefydliad Iechyd y Byd (WH0) “gydnabod o’r diwedd” fod Covid yn bresennol yn yr awyr.

Mae’r Dr Eilir Hughes, meddyg teulu yn Nefyn a Phen-Llŷn, wedi dadlau o ddechrau’r pandemig fod Covid yn bresennol yn yr awyr ac yn medru cael ei drosglwyddo drwy’r awyr.

Ond ddim ond tridiau yn ôl, y cyhoeddodd sefydliad y WHO fod hynny’n wir – ar ôl dros flwyddyn o wadu.

Roedd Dr Hughes wedi cwestiynu pam fod llywodraethau’r byd wedi blaenoriaethu negeseuon am bwysigrwydd golchi dwylo yn hytrach na gwisgo masgiau a sicrhau digonedd o awyr iach yn y frwydr i rwystro trosglwyddiad a lledaeniad yr haint.

Dywed Dr Hughes ei fod wedi bod yn “rwystredig” ac yn “siomedig” gyda’r rhai fu’n arwain ar ran y byd ac yn lunio polisiau i rwystro lledaenu heintiau ac yn rheoli’r agenda.

Meddai: “Gwybodaeth yw pŵer, y pŵer i arbed bywydau.”

Mae Dr Hughes ac arbenigwr gwyddonol Huw Waters wedi sefydlu gwefan o’r enw Awyr Iach yn egluro’r peryglon i’r cyhoedd.

Mae nifer fawr o arbenigwyr meddygol ledled y byd nawr wedi ymateb i gyfaddefiad y WHO.

Dywedodd un cemegydd blaenllaw o’r Unol Daleithau Jose-Luis Jiminez o Colorado sydd hefyd wedi bod yn dadlau ers tro fod Covid yn yr awyr, ei fod o’n “rhyfeddol i weld fod prif swyddogion y WHO wedi bod yn gwadu fod Covid yn yr awyr – a hynny am gyfnod o ragor na blwyddyn.”

Mae cannoedd o bobl nawr wedi ymuno â’r trafod ac eisiau gwybod yn union pam na wnaeth y WHO a llywodraethau’r byd rybuddio’r cyhoedd fod Covid-19 yn bresennol yn yr awyr.

Honnir gan rai mai un rheswm nad oedd y llywodraethau eisiau rhannu’r neges hownno oedd oherwydd rhesymau economaidd ac nad oedden nhw eisiau pobl ddewis peidio mynd i’w gwaith rhag ofn iddyn nhw dal y feirws.