Mae disgwyl gwyntoedd cryf iawn ar draws y rhan helaeth o Gymru rhwng y prynhawn yma a bore Mawrth.

Bydd rhybudd melyn yn dod i rym am hanner dydd heddiw (Dydd Llun, Gŵyl y Banc) ac yn para tan 9yb yfory (dydd Mawrth).

Mae’r rhybudd yn cynnwys y rhan fwyaf o Gymru – yn enwedig yr arfordir gorllewinol.

Dywed yr arbenigwyr bod perygl i’r tywydd gwael achosi difrod i adeiladau a choed a thrafferthion i deithwyr.

Mae disgwyl tonnau uchel iawn a chryf ar yr arfordir.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd, mae gwyntoedd yn debygol o fod mor uchel â 60 i 65 mya.