Mae’r actor Anthony Hopkins wedi cyhoeddi fideo ohono’i hun yn canu hwiangerdd Cymraeg.

Daeth Hopkins – ennillydd dwy Oscar Actor Gorau – ar ymweliad â Chymru fis yn ôl a chafodd ei ffilmio gyda ffrind yn canu ‘Mae gen i dipyn o dŷ bach twt’.

Meddai ar y trydariad: “Diolch i Gymru. Canu cân plentyndod Cymraeg gyda ffrind annwyl.”

Credir fod yr hwiangerdd draddodiadol yn perthyn ir 1900au.

Ymddangosodd y gân hefyd ar gasgliad gan y canwr Dafydd Iwan o ganeuon i blant, Cwm Rhyd y Rhosyn.

“Mae gen i dipyn o dŷ bach twt, o dŷ bach twt, o dŷ bach twt. Mae gen i dipyn o dŷ bach twt, a’r gwynt i’r drws bob bore,” mae Anthony Hopkins yn canu yn y fideo.

Mae ei ffrind dienw yn dweud ei bod yn “hyfryd eich gweld chi i gyd”.

Cyhoeddwyd y fideo ar Instagram a Twitter Hopkins.

Dyma’r ail fideo Cymraeg y mae Hopkins wedi’i gyhoeddi o fewn ychydig fisoedd, ar ôl dyfynnu Beibl William Morgan ym mis Mawrth.

Mewn fideo a bostiwyd ar Twitter darllenodd o Eseciel 37: “Bu llaw yr Arglwydd arnaf, ac a’m dug allan yn ysbryd yr Arglwydd, ac a’m gosododd yng nghanol dyffryn, a hwnnw oedd yn llawn esgyrn.”

Yn Saesneg, mae’n darllen: “Roedd llaw’r Arglwydd arnaf, ac fe’m cyflawnodd yn Ysbryd yr Arglwydd a’m gosod i lawr yng nghanol y cwm a oedd yn llawn esgyrn.”

Yna mae’r actor 83 oed o Bort Talbot yn mynd ymlaen i ddarllen yn Saesneg gerdd Fern Hill gan Dylan Thomas.