Bydd aelodau dau gartref yn medru ffurfio aelwyd estynedig gyda un person arall sy’n byw ar ben ei hun i ffurfio swigen i gyfarfod o dan do o heddiw ymlaen.

Hefyd bydd canolfannau hamdden, pyllau nofio a champfeydd yn gallu ailagor wrth i ragor o reolau coronafeirws gael eu llacio.

Cadarnhaodd Llywodraeth Cymru y bydd gweithgareddau chwarae dan do i blant, cyfleusterau ffitrwydd oedolion, a sbas hefyd yn cael agor eto.

Mae hyn yn cynnwys grŵpiau a chlybiau chwaraeon, a grŵpiau diwylliannol a hamdden ehangach.

Gall gweithgareddau dan do ar gyfer oedolion hefyd ailddechrau i hyd at 15 o bobl, gan gynnwys dosbarthiadau ymarfer corff a gwersi nofio.

Iechyd

Gall Canolfannau Cymunedol ailagor.

Ond bydd yn rhaid cadw at y rheol dwy fetr.

Mae’r newidiadau’n golygu bod Cymru bellach ar Lefel Rhybudd 3.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi dweud ar Ebrill 23 y gallai’r rheolau gael eu llacio ymhellach os oedd y sefyllfa iechyd cyhoeddus yn parhau i wella.

Mae’r ystadegau yn dangos lefelau coronafeirws yn is yng Nghymru na gweddill y DU, a Chymru’n drydydd yn y byd o ran brechu pobl.

Gostwng

Mae’r raddfa o achosion Covid-19 yng Nghymru wedi gostwng yn sylweddol erbyn hyn gyda 11.3 achos fesul 100,000 o bobl yn cael ei gofnodi ar Ebrill 24 – y ffigwr isaf ers mis Medi.

Ond mae cynnal partïon pen-blwydd plant, neu gynulliadau ehangach o deuluoedd a ffrindiau mewn cartrefi preifat, yn dal wedi eu gwahardd.

Fydd canolfannau chwarae meddal ddim yn agor tan Mai 17.

Aeth nofwyr i’r pwll yn syth wedi hanner nos, nos Sul yng nghanolfan hamdden Pen-lan, Abertawe.