Mae undeb yn galw am wneud mwy i orfodi rheolau Covid yn y gweithle, wrth i ddata newydd ddangos mai dim ond 1 o bob 4 cyflogwr yng Nghymru sy’n dilyn rheoliadau’r llywodraeth.

Galwa TUC Cymru am gymryd camau llymach yn erbyn penaethiaid sy’n dal i fethu â chyflawni rhwymedigaethau cyfreithiol yn ymwneud â diogelwch Covid yn y gweithle.

Daw’r alwad ar Ddiwrnod Rhyngwladol Cofio Gweithwyr, diwrnod er cof am bobol sydd wedi eu hanafu neu eu heintio yn y gwaith.

Canfyddiadau’r ymchwil

Mae ystadegau swyddogol yn dangos bod 11,000 o bobol o oedran gweithio wedi marw yn y Deyrnas Unedig ers dechrau’r pandemig.

Dangosodd data newydd o ymchwil a gafodd ei wneud gan YouGov ar ran TUC Cymru mai dim ond 47% o weithwyr ddywedodd fod eu cyflogwr wedi cynnal asesiad risg diogelwch Covid yn y gweithle, er ei fod yn ofynnol o dan reoliadau Llywodraeth Cymru.

Dim ond 23% o weithwyr ddywedodd fod eu cyflogwyr wedi ymgynghori â nhw ynghylch asesiad risg Covid, rhywbeth arall sy’n rhwymedigaeth gyfreithiol.

Yn ogystal, dywedodd mwy nag 1 ymhob 5 gweithiwr eu bod nhw yn y niwl ynghylch beth i’w ddisgwyl gan eu cyflogwyr, gan ddweud eu bod nhw naill ai’n gwybod dim, neu ychydig iawn, am gyfrifoldebau eu cyflogwyr o ran diogelwch Covid.

“Cwbl annerbyniol”

“Ar Ddiwrnod Rhyngwladol Cofio Gweithwyr, rydyn ni’n cofio’r rheini sydd wedi marw, ac yn addunedu i frwydro dros weithleoedd diogel i bawb,” meddai Shavanah Taj, Ysgrifenydd Cyffredinol TUC Cymru.

“Byddwn yn nyled y gweithwyr a fu farw yn ystod y pandemig hwn am byth – nyrsys, gofalwyr, gyrwyr bysiau a llawer mwy.

“Fe gollon nhw eu bywydau yn gofalu am ein hanwyliaid ac yn cadw ein gwlad i redeg yn y cyfnod anoddaf un.

“Mae’n ddyletswydd arnom i sicrhau bod mwy’n cael ei wneud i fynd i’r afael â chyflogwyr sy’n dal i gymryd diogelwch gweithwyr yn ysgafn.

“Mae’n gwbl annerbyniol bod y rhan fwyaf o gyflogwyr yng Nghymru, dros flwyddyn i mewn i’r argyfwng hwn, yn dal i fethu yn eu cyfrifoldebau cyfreithiol sylfaenol i gadw gweithwyr yn ddiogel,” ychwanegodd.

“Os nad yw cyflogwyr yn mynd i weithredu, mae angen i’r cyrff sy’n gyfrifol am orfodi’r gyfraith eu dal i gyfrif.

“Ni allwn dderbyn dim mwy o esgusodion bellach. Dylai pob cyflogwr fod yn siarad â’i weithwyr ac yn cynhyrchu asesiad risg cynhwysfawr yn y gweithle ac yn cymryd pob cam angenrheidiol i leihau’r risg.”

Y DVLA

Yn y cyfamser, mae ffrae ynghylch diogelwch ac amodau gwaith yng nghanolfan y DVLA yn Abertawe yn parhau i fynd yn ei blaen, a bydd gweithwyr y ganolfan yn cynnal streic o’r newydd wythnos nesaf.

Bydd aelodau o’r undeb PCS sy’n gweithio i’r asiantaeth drwyddedu yn streicio am bedwar diwrnod o Fai 4.

Mae’r undeb yn galw am ostyngiad yn nifer y staff sydd angen mynd i mewn i’r swyddfa i weithio ar ôl i bryderon gael eu codi yn dilyn nifer o achosion coronafeirws y llynedd.

Fe fu trafodaethau ar y gweill ers tro ond, yn ôl yr undeb, mae rheolwyr yn dal i fynnu bod rhaid i 2,000 o aelodau o staff fynd i’r swyddfa bob dydd.

Mynedfa adeilad y DVLA yn Abertawe

Gweithwyr y DVLA yn mynnu “dim byd llai” na chael gweithio o adref

Huw Bebb

Staff yn “eistedd ar ticking time bomb” medd un o swyddogion undeb y PCS