Fe fydd gweithwyr yng nghanolfan y DVLA yn Abertawe yn cynnal streic o’r newydd wrth i’r ffrae ynghylch diogelwch ac amodau gwaith yn ymwneud â Covid-19 rygnu ymlaen.

Bydd aelodau o’r undeb PCS sy’n gweithio i’r asiantaeth drwyddedu yn cerdded allan o’r gwaith am bedwar diwrnod o Fai 4 – ar ôl iddyn nhw streicio eisoes ddechrau’r mis yma.

Mae’r undeb yn galw am ostyngiad yn nifer y staff sydd angen mynd i mewn i’r swyddfa i weithio ar ôl i bryderon gael eu codi yn dilyn nifer o achosion coronafeirws y llynedd.

Fe fu trafodaethau ar y gweill ers tro ond, yn ôl yr undeb, mae rheolwyr yn dal i fynnu bod rhaid i 2,000 o aelodau o staff fynd i’r swyddfa bob dydd.

Mae Mark Serwotka, ysgrifennydd cyffredinol y PCS, wedi cyhudo’r penaethiaid o “draheustra a diffyg symud syfrdanol”, gan ddweud nad oes gan aelodau’r undeb ddewis ond cynnal streic eto.

Mae’r DVLA yn mynnu eu bod nhw wedi dilyn cyngor Llywodraeth Cymru bob cam.

“Mae haerllugrwydd ac ymyrraeth uwch reolwyr y DVLA yn warthus ac mae ein haelodau wedi cael eu gadael heb unrhyw ddewis ond cymryd camau pellach,” meddai Mark Serwotka.

“Mae angen i’r DVLA a gweinidogion ddeall lefelau ofn a dicter yn y gweithle ac y bydd ein hundeb yn cefnogi staff bob cam o’r ffordd.”

Dywedodd llefarydd ar ran y DVLA: “Mae’n siomedig iawn bod y PCS yn bwrw ymlaen am ail rownd o weithredu diwydiannol ym mis Mai a fydd yn effeithio ar fodurwyr wrth i gyfyngiadau leddfu ac wrth i raglen brechiadau’r Deyrnas Unedig wneud cynnydd mor fawr.

“Mae achosion o Covid-19 ymhlith staff DVLA yn parhau’n isel iawn, ac ar hyn o bryd dim ond un achos positif sydd, allan o weithlu o fwy na 6,000 gan gynnwys y rhai sy’n gweithio gartref.

“Mae’r DVLA wedi sicrhau ei fod wedi dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ar bob adeg drwy gydol y pandemig ar ôl gweithio’n gyson gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, Iechyd yr Amgylchedd a Bwrdd Iechyd Bae Abertawe i gyflwyno ystod eang o fesurau diogelwch.

“Mae hyn wedi galluogi staff y DVLA i barhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol i’r cyhoedd ledled y Deyrnas Unedig mewn ffordd ddiogel o ran Covid-19.

“Bydd gwasanaethau ar-lein y DVLA yn gweithredu fel arfer yn ystod y cyfnod hwn o streicio ac rydym yn cynghori cwsmeriaid i ddefnyddio’r rheini lle bynnag y bo modd.

“Mae’r rhai sy’n postio ceisiadau papur i DVLA, neu sy’n ceisio cyrraedd ein canolfan gyswllt, yn debygol o brofi oedi.”