Fe wnaeth Boris Johnson anfon negeseuon testun at Syr James Dyson yn addo “trwsio” problem gyda statws treth gweithwyr cwmni Dyson, yn ôl adroddiadau.

Dywed y BBC eu bod nhw wedi gweld cyfres o negeseuon testun rhwng y ddau, wedi i James Dyson lobïo’r Prif Weinidog ar ôl methu a chael cadarnhad gan y Trysorlys ynghylch statws treth ei weithwyr.

Cafodd y negeseuon eu gyrru fis Mawrth y llynedd pan oedd y Llywodraeth yn apelio am gwmnïau fyddai’n gallu cyflenwi gwyntyllwyr yn sgil pryderon y gallai’r Gwasanaeth Iechyd weld prinder.

Dywed Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei bod hi’n iawn sicrhau cyfarpar ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd ar “adegau rhyfeddol”, tra bod James Dyson yn dweud ei bod hi’n “afresymol awgrymu bod ei gwmni wedi gwneud unrhyw beth oni bai am ddilyn rheolau’r Trysorlys”.

Mae’r Blaid Lafur wedi galw’r canfyddiadau yn rhai “syfrdanol”, gan ddweud bod rhaid i Boris Johnson gytuno i ymchwiliad annibynnol, llawn ar lobïo.

Y negeseuon

Mae cwmni Dyson wedi’i leoli yn Singapôr, ac fe wnaeth James Dyson ysgrifennu at y Trysorlys yn gofyn am sicrwydd na fyddai’n rhaid i’w weithwyr dalu treth ychwanegol petaen nhw’n dod i’r Deyrnas Unedig i weithio ar y prosiect.

Fodd bynnag, pan na chafodd ateb, dywed y BBC ei fod wedi mynd yn uniongyrchol at Boris Johnson am y mater.

Mewn neges destun, dywedodd fod y cwmni’n barod ond yn “drist” gan ei bod yn ymddangos nad oedd neb oedd eisiau iddyn nhw barhau â’r gwaith.

Fe wnaeth Boris Johnson ateb gan ddweud “Fe wna’i drwsio hyn fory! Rydyn ni eich angen chi. Mae’n edrych yn wych”.

Gyrrodd y prif weinidog neges arall ato wedyn yn dweud “[Mae’r Canghellor] Rishi [Sunak] yn dweud ei fod wedi sortio!! Rydyn ni eich angen chi yma.”

Pan wnaeth James Dyson holi am ychwaneg o sicrwydd, atebodd Boris Johnson gan ddweud “James, fi yw Prif Arglwydd y Trysorlys, a galli di gymryd ein bod ni’n dy gefnogi di i wneud yr hyn mae angen i ti ei wneud”.

Bythefnos wedyn, dywedodd Rishi Sunak na fyddai statws treth pobol fyddai’n dod i’r Deyrnas Unedig i gynnig help penodol yn ystod y pandemig yn newid.

“Iawn” gweithredu mewn “amseroedd rhyfeddol”

Dywedodd llefarydd ar ran y Llywodraeth ei bod hi’n iawn gweithredu mewn “amseroedd rhyfeddol” er mwyn sicrhau fod gan y Gwasanaeth Iechyd gyfarpar hanfodol.

“Pan oedd y pandemig ar ei waethaf, roedd ofnau gwirioneddol y byddem ni’n rhedeg allan o wyntyllwyr yn sydyn. Byddai hynny’n golygu fod y Gwasanaeth Iechyd yn methu trin cleifion, a byddai’n peryglu nifer o fywydau.

“Fel y byddai’r cyhoedd yn ei ddisgwyl, fe wnaethom ni bopeth o fewn ein gallu mewn amseroedd rhyfeddol i warchod y cyhoedd, a chael mynediad at yr offer meddygol cywir.”

Dan y cod gweinidogol, mae’n ofynnol i swyddog fod yn bresennol wrth i weinidogion drafod busnes y llywodraeth, neu i adrodd yn ôl i’w hadran cyn gynted â phosib os yw’r drafodaeth yn digwydd heb swyddog.

“Balch iawn” o ymateb ei gwmni

Dywedodd James Dyson ei fod yn “falch iawn” o ymateb ei gwmni “yng nghanol argyfwng cenedlaethol”, ac y byddai’n “gwneud yr un fath eto pe bai’n ofynnol”.

“Pan wnaeth y Prif Weinidog ffonio yn gofyn i Dyson adeiladu gwyntyllwyr ar frys, wrth gwrs y dywedais ‘Iawn’,” meddai James Dyson wrth y BBC.

“Fe wnaeth y gwyntyllwyr gostio £20m i Dyson, ac fe roddon ni nhw am ddim er lles yr achos cenedlaethol. Mae’n afresymol awgrymu fod yr ohebiaeth yn ddim byd mwy na sicrhau ein bod ni’n dilyn y rheolau.”

“Canfyddiadau syfrdanol”

“Mae’r rhain yn ganfyddiadau syfrdanol,” meddai llefarydd ar ran y Blaid Lafur.

“Mae Boris Johnson ar flaen, ac yng nghanol, y sgandal lobïo fwyaf mewn cenhedlaeth. Mae’r llygredd Torïaidd wedi cyrraedd calon Downing Street.

“Mae’n ymddangos bod y Prif Weinidog wedi defnyddio grym ei waith i roi arian cyhoeddus i’w ffrind, biliwnydd, er mwyn creu toriadau mewn trethi.

“Os yw hynny’n wir, mae’n fwy amlwg nag erioed fod un rheol i’r Torïaid a’u ffrindiau, ac un arall i bawb arall.”

“Yr holl beth yn drewi”

“Mae’r BBC yn adrodd am ragor o lygredd Torïaidd – nawr maen ymwneud â thoriadau trethi ar gyfer Dyson, eu ffrind-Brexit,” meddai Leanne Wood ar Twitter.

“Mae’r holl beth yn drewi. #DiweddIAnonestrwydd”

Daw hyn wedi i sgandal lobïo yn ymwneud a’r cyn-Brif Weinidog David Cameron, sy’n derbyn y dylai fod wedi cyfathrebu gyda’r Llywodraeth “drwy’r ffyrdd mwyaf ffurfiol,” yn hytrach na thecstio’r Canghellor Rishi Sunak, ddod i’r amlwg.

Mae Boris Johnson wedi comisiynu adolygiad annibynnol i Greensill Capital, y cwmni ariannol y bu David Cameron yn lobïo gweinidogion yn ei gylch.