Mae Boris Johnson, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, wedi gwadu “rhyng-gipio” pofion Covid-19 oedd i fod ar gyfer Cymru.

Daw hyn ar ôl i bennaeth iechyd yn honni fod profion Covid-19 a oedd i fod i gael eu defnyddio yng Nghymru wedi cael eu “hatal”, a’u gyrru i Loegr yn lle.

Dywedodd Tracey Cooper, Prif Swyddog Gweithredol Iechyd Cyhoeddus Cymru, fod gan Lywodraeth Cymru gytundeb llafar gyda’r cwmni Roche o’r Swistir er mwyn gallu cyflenwi 5,000 prawf ychwanegol y dydd.

Mewn gohebiaeth, sydd wedi cael ei gweld gan Channel 4, mae Tracey Cooper yn dweud sut aeth trafodaethau yn eu blaen, ond fod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi clywed ynghanol mis Mawrth 2020 fod “Roche wedi cael eu galw i gyfarfod gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig”.

Yn yr e-byst, mae hi’n dweud fod y cwmni “wedi cael cyfarwyddiadau i gadw pob prawf ychwanegol oedd ganddyn nhw er mwyn cael eu defnyddio yn Lloger ac wedi hynny, drwy gytundeb gyda’r Llywodraethau Datganoledig”.

“Pam fod bywydau Cymreig yn golygu cyn lleied” i Boris Johnson

Yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog heddiw (dydd Mercher, Ebrill 28) gofynnodd Hywel Williams, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon, “pam fod bywydau Cymreig yn golygu cyn lleied” i Boris Johnson.

“Ym mis Mawrth y llynedd fe wnaeth Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig ryng-gipio cytundeb rhwng Cymru a chwmni fferyllol Roche am 5,000 o brofion Covid dyddiol yn cyfarwyddo’r cwmni i ‘gadw pob prawf Covid ychwanegol’ i Loegr.

“Byddai’r profion hynny wedi bod yn hanfodol i achub miloedd o fywydau yng Nghymru.

“Felly wrth i ni fynd i’r polau’r wythnos nesaf, a wnaiff y Prif Weinidog ddweud wrthym pam fod bywydau Cymru’n golygu cyn lleied iddo?” holodd Hywel Williams.

Atebodd Boris Johnson drwy ddweud bod Hywel Williams yn “hollol anghywir yn yr hun mae o’n ei ddweud am y profion”.

Roche yn gwadu dod i gytundeb â Llywodraeth Cymru

Er bod Llywodraeth Cymru wedi cael profion Roche yn y diwedd, a hynny drwy Lywodraeth y Deyrnas Unedig, mae’n debyg iddyn nhw dderbyn 10% o’r 5,000 y dydd yr oedden nhw’n eu disgwyl.

Ond mae Roche yn gwadu ei fod erioed wedi dod i gytundeb â Llywodraeth Cymru.

Mae’n debyg na chafodd cytundeb swyddogol ei arwyddo, ond bod Iechyd Cyhoeddus Cymru o’r farn bod ganddo gytundeb llafar cryf gyda’r cwmni.

Ond y gred yw bod hyn wedi newid ar ôl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gynnal cyfarfod â Roche.

Cynnal profion Covid-19

Pennaeth iechyd yn honni fod profion Covid-19 wedi cael eu “hatal” a’u gyrru i Loegr

“Dydi hyn yn ddim byd llai na sgandal genedlaethol,” meddai Adam Price