Bydd gweithwyr yr asiantaeth drwyddedu a moduro DVLA yn Abertawe yn mynd ar streic o Ebrill 6-9 mewn anghydfod am amodau gwaith.

Mae gan undeb y PCS 3,300 o aelodau yn y DVLA, ac mae disgwyl i’r gweithredu diwydiannol amharu ar wasanaethau’r ganolfan.

Dywedodd llywodraeth y DU: “Bydd gweithredu diwydiannol yn digwydd rhwng dydd Mawrth 6 Ebrill a dydd Gwener 9 Ebrill a fydd yn effeithio’n uniongyrchol ar wasanaethau DVLA.

“Yn y cyfnod yma rydych yn debygol o brofi oedi gyda cheisiadau papur a anfonwyd atom ac os byddwch yn ceisio cysylltu gyda’r ganolfan alwadau.”

Dywedodd undeb y PCS eu bod wedi bod mewn trafodaethau dwys gyda’r DVLA i geisio cyrraedd cytundeb ar faterion iechyd a diogelwch.

Hunan-ynysu

Dywedodd yr undeb mewn datganiad: “Er ein bod yn croesawu’r gwelliannau hyd yma, mae diffyg camau gan y cyflogwr i leihau niferoedd ar y safle yn golygu fod rhaid i ni nawr symud ymlaen i weithredu diwydiannol ar ffurf streic ymhlith y staff gweithredol ar y safle o 6 Ebrill.

“Rydym yn grediniol fod y DVLA yn medru rhoi mwy nag y mae’n fodlon gwneud ar hyn o bryd, ac rydym yn credu’n gryf y bydd dangos ein nerth yr wythnos nesaf yn troi’r fantol wrth geisio cael rheolwyr i leihau niferoedd yn y tymor canolig a gwneud y safle’n ddiogel.”

Oherwydd rheolau’r pandemig, ni fydd linell biced corfforol, a bydd yr undeb yn hytrach yn cynnal digwyddiadau rhithiol yn ystod yr wythnos nesaf.

 

 

Dywedodd y DVLA: “Ar hyn o bryd does yr un aelod o staff yn hunan-ynysu allan o weithlu o mwy na 6,000.

“Mae’r DVLA wedi sicrhau ei fod wedi dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ar hyd y pandemig ac wedi cydweithio gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Bae Abertawe i gyflwyno ystod eang o fesurau diogelwch.

“Mae’n siomedig fod y PCS yn mynd ymlaen gyda’r gweithredu diwydiannol yma a fydd yn effeithio ar fodurwyr wrth i’r cyfyngiadau ddechrau llacio.”