Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi dweud fod angen i’r cyhoedd “ymddwyn yn synhwyrol a gofalus” er mwyn osgoi cyfyngiadau llymach ar draws Cymru.
Daw hyn ar ôl i nifer yr achosion o amrywiolyn Delta yng Nghymru bron a dyblu o fewn wythnos i 178.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi rhybuddio y gallai’r amrywiolyn fod wedi dechrau trosglwyddo yn y gymuned ac mae’n annog pobol i gael eu brechu a chadw at fesurau ymbellhau cymdeithasol.
Fodd bynnag, mae’r ffigyrau diweddaraf ar gyfer marwolaethau coronafeirws yn dangos bod llai o bobol yn marw o Covid-19.
Ddydd Mawrth (8 Mehefin), dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod nifer yr achosion a gadarnhawyd o’r amrywiolyn Delta wedi cynyddu 81 ers 3 Mehefin.
“Niferoedd yn is nag mewn gwledydd eraill”
“Mae’r darlun wedi bod yn ffafriol ar y cyfan yng Nghymru dros y cwpl o fisoedd diwethaf,” meddai Dr Frank Atherton wrth raglen frecwast BBC Radio Wales.
“Ond rydan ni yn gweld bod yr amrywiolyn Delta yn cynyddu mewn niferoedd yma yng Nghymru, yn ogystal â gweddill y Deyrnas Unedig.
“Mae ein niferoedd yn is nag mewn gwledydd eraill, yn benodol Lloegr a’r Alban.
“Felly rydyn ni wedi cofnodi 178 (o achosion) yng Nghymru, sy’n cymharu gyda 28,000 o achosion yn Lloegr.”
‘Disgwyl i’r niferoedd gynyddu’
“Yr hyn rydym yn ei weld yng Nghymru yw bod yr achosion cyntaf wedi dod yma drwy deithio tramor yn bennaf, ac yna cawsom gyfres o glystyrau mewn aelwydydd ac yna lledaenu i’r gymuned ehangach,” meddai wedyn.
“Dw i’n disgwyl i’r niferoedd (o achosion) gynyddu, a dw i’n disgwyl i’r feirws drosglwyddo ar raddfa uwch.
“Yr hyn nad ydym yn ei wybod yw faint o niwed y bydd hynny yn ei achosi i ni.”
Ystyried cyfyngiadau cenedlaethol
Ychwanegodd: “Nid ydym yn gweld unrhyw gynnydd mewn pobol yn gorfod mynd i’r ysbyty (gyda’r feirws) yng Nghymru ar hyn o bryd.
“Ond os ydi’r rheini yn cynyddu, mae’n bosib y bydd yn rhaid i ni gyflwyno mesurau cenedlaethol.
“Ymhob bwrdd iechyd mae gennym dimau sy’n edrych ar glystyrau o achosion o’r amrywiolyn newydd.
“Mae gan y timau hynny’r pŵer i gymryd camau lleol… maen nhw’n gallu gweithredu mwy o brofion mewn cymunedau, neu gyflymu’r rhaglen frechu yn yr ardal.
“Felly mae ganddyn nhw bwerau lleol y maen nhw’n gallu eu defnyddio.
“Yr hyn rydym yn awyddus i’w osgoi yw cynnydd mewn cyfyngiadau cenedlaethol.
“Dw i’n meddwl os fydd y cyhoedd yn ymddwyn yn synhwyrol a gofalus a’n bod yn parhau i lacio’r cyfyngiadau yn ofalus yna gallwn osgoi hynny.
“Dyna’r peth olaf y mae’r un ohonom eisiau.”