Mae ymchwiliad ar y gweill i British Airways a Ryanair i geisio darganfod oes oedden nhw wedi torri rheolau drwy beidio cynnig ad-daliadau am hediadau os oedd cwsmeriaid yn methu hedfan oherwydd pandemig Covid.

Mae’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) yn dweud y gallai fod angen i’r cwmnïau roi ad-daliadau am hediadau oedd wedi cael eu cynnal ond oedd ddim yn cael eu caniatáu ar gyfer teithiau oedd ddim yn hanfodol.

Fe fydd y corff yn ysgrifennu at y ddau gwmni fel rhan o’r ymchwiliad.

Yn ystod y pandemig roedd BA yn cynnig talebau neu’n rhoi’r cyfle i gwsmeriaid ail-fwcio hediadau, tra bod Ryanair yn rhoi’r dewis o ail-fwcio hediadau oedd yn cael eu cynnal ond oedd i’w defnyddio ar gyfer teithiau hanfodol yn unig, meddai’r CMA.

Dywedodd BA eu bod wedi cynnig ad-daliadau am yr holl hediadau gafodd eu canslo. Mae gan gwsmeriaid yr hawl i gael ad-daliad o fewn 14 diwrnod.

“Pobl ar eu colled”

“Mae’r CMA yn pryderu, trwy fethu â chynnig eu harian yn ôl i bobl, y gallai’r ddau gwmni fod wedi torri cyfraith defnyddwyr a bod pobl ar eu colled,” meddai’r corff.

Ychwanegodd prif weithredwr y CMA, Andrea Coscelli: “Er ein bod yn deall bod cwmnïau hedfan wedi cael amser caled yn ystod y pandemig, ni ddylai hyn olygu bod pobl ar eu colled.

“Archebodd cwsmeriaid yr hediadau hyn ac nid oedden nhw’n gyfreithiol yn gallu mynd oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i’w rheolaeth. Credwn y dylai’r bobl hyn fod wedi cael cynnig eu harian yn ôl. ”

Dywedodd llefarydd ar ran BA bod y cwmni wedi gwneud mwy na thair miliwn o ad-daliadau, a’u bod wedi gweithredu o fewn y gyfraith.

“Mae’n anhygoel bod y Llywodraeth yn ceisio cosbi ymhellach diwydiant sydd ar ei liniau, ar ôl gwahardd cwmnïau rhag hedfan ers ymhell dros flwyddyn bellach.

“Bydd unrhyw gamau sy’n cael eu cymryd yn erbyn ein diwydiant yn ei ansefydlogi, gyda chanlyniadau posibl ar gyfer swyddi, busnes, cysylltedd ac economi’r DU,” meddai.

Daw hyn ar ôl i’r CMA gymryd camau yn erbyn nifer o gwmniau gwyliau a’u gorfodi i gytuno i gynnig ad-daliadau arian parod i gwsmeriaid.