Mae nifer yr achosion o amrywiolyn Delta yng Nghymru bron wedi dyblu o fewn wythnos i 178, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Rhybuddiodd Iechyd Cyhoeddus Cymru y gallai’r amrywiolyn fod wedi dechrau trosglwyddo yn y gymuned ac mae’n annog pobol i gael eu brechu a chadw at fesurau ymbellhau cymdeithasol.
Fodd bynnag, mae’r ffigyrau diweddaraf ar gyfer marwolaethau coronafeirws yn dangos bod llai o bobol yn marw o Covid-19.
Ddydd Mawrth (8 Mehefin), dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod nifer yr achosion a gadarnhawyd o’r amrywiolyn Delta wedi cynyddu 81 ers 3 Mehefin.
Dywedodd mewn datganiad: “Mae’r sefydliad yn rhybuddio’r cyhoedd y gallai’r amrywiolyn fod wedi dechrau trosglwyddo yng nghymunedau Cymru, gyda thystiolaeth gynyddol o achosion mewn pobol sydd heb fod yn teithio.”
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan bod y ffigyrau’n dangos “nad yw’r coronafeirws wedi diflannu” ac wedi dod â “lefel newydd o ansicrwydd”.
“Rydym yn gobeithio y gallwn reoli’r achosion ac atal yr amrywiolyn hwn rhag lledaenu ymhellach,” meddai wrth y Senedd.
“Ond rwy’n credu bod yn rhaid i ni fod yn realistig ac rydym yn disgwyl i nifer yr achosion yng Nghymru barhau i gynyddu.”
Mae gwyddonwyr o’r farn bod yr amrywiolyn diweddaraf yn fwy trosglwyddadwy nag amrywiolyn Caint neu Alpha, a Delta yw prif amrywiolyn y Deyrnas Unedig bellach.
Fodd bynnag, nid ydynt wedi gallu diystyru bod cynnydd yn nifer y bobl sy’n cymysgu’n gymdeithasol yn sgil llacio cyfyngiadau wedi bod yn ffactor.
Dengys y dystiolaeth ddiweddaraf fod brechlynnau Pfizer ac AstraZeneca yn effeithiol yn erbyn yr amrywiolyn ar ôl dau ddos.
Y sefyllfa’n gwaethygu ym Mhontyberem
Mae Pontyberem, sydd wedi’i leoli rhwng Caerfyrddin a Llanelli, wedi gweld clwstwr o achosion coronafeirws yn cael eu cadarnhau yn ystod yr wythnos neu ddwy ddiwethaf.
Mae’r cyngor sir yn cyfaddef ei fod wedi siarad â phobol a sefydliadau lleol am gyflwyno canllawiau cymdeithasol yn yr ardal, tra bod y bwrdd iechyd lleol wedi dweud ei fod yn monitro’r sefyllfa yn y pentref.
Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, yr ardal sydd â’r gyfradd heintio leol ail uchaf ar hyn o bryd o unrhyw le yng Nghymru.
Mae gan y rhanbarth gyfradd heintio o 124 fesul 100,000 o’r boblogaeth dros y cyfnod o saith diwrnod hyd at 3 Mehefin.
Pontyberem oedd â’r gyfradd uchaf yn y wlad ddydd Llun (7 Mehefin) – 82.6, ac ers hynny mae wedi cynyddu o fwy na 30.
Yn y cyfamser, y gyfradd heintio ledled Cymru gyfan yw 10.4.