Mae gweinidog Brexit, yr Arglwydd Frost, yn annog yr Undeb Ewropeaidd i ddangos “pragmatiaeth a synnwyr cyffredin” wrth ddatrys y gwahaniaethau parhaus dros fasnach yng Ngogledd Iwerddon wedi Brexit.

Fe fydd trafodaethau’n cael eu cynnal yn Llundain heddiw (Dydd Mercher, Mehefin 9) i drafod y mater.

Dywedodd yr Arglwydd Frost nad oedd bygythiadau gan Frwsel o gymryd camau cyfreithiol a chynnal rhyfel fasnach yn helpu pobl a busnesau yng Ngogledd Iwerddon sy’n ceisio ymdopi gyda “effaith niweidiol” y cytundeb.

Daeth ei apêl ar ôl i is-lywydd y Comisiwn Ewropeaidd Maros Sefcovic ddweud y byddai’r UE yn ymateb yn “gadarn ac yn gyflym” os oedd y Deyrnas Unedig yn ceisio gwyrdroi ei hymrwymiadau o dan gytundeb Protocol Gogledd Iwerddon.

Daw hyn ar ôl adroddiadau bod Prydain yn barod i weithredu i ohirio cyflwyno gwiriadau ar gigoedd wedi’u hoeri fel selsig a nygets cyw iâr sy’n dod i Ogledd Iwerddon o wledydd Prydain, pan ddaw’r “cyfnod gras” presennol i ben ddiwedd mis Mehefin.

“Atebion ymarferol”

Mewn datganiad cyn ei gyfarfod â Maros Sefcovic, dywedodd yr Arglwydd Frost fod amser yn brin i ddod o hyd i’r “atebion ymarferol” oedd eu hangen i alluogi’r protocol i weithio fel y bwriadwyd iddo.

Dywedodd mai’r “flaenoriaeth bwysicaf” i’r ddwy ochr yw diogelu proses heddwch Gogledd Iwerddon a galwodd ar yr UE i ddangos “hyblygrwydd” er mwyn sicrhau “hyder pob cymuned”.

“Mae busnesau ym Mhrydain yn dewis peidio â gwerthu eu nwyddau i Ogledd Iwerddon oherwydd bod cymaint o waith papur, mae cynhyrchwyr meddyginiaethau yn bygwth torri cyflenwadau hanfodol, ac mae cigoedd wedi’u hoeri gan ffermwyr Prydain ar gyfer marchnad Gogledd Iwerddon mewn perygl o gael eu gwahardd yn llwyr,” meddai’r Arglwydd Frost.

“Boncyrs”

Yn gynharach, mynnodd Downing Street nad oedd unrhyw gyfiawnhad dros atal cigoedd wedi’u hoeri o weddill y DU rhag cael eu gwerthu mewn siopau yng Ngogledd Iwerddon, tra bod Ysgrifennydd yr Amgylchedd George Eustice wedi dweud fod yr awgrym yn “boncyrs”.

Fe ddaeth ar ôl i Maros Sefcovic fygwth rhyfel masnach – gyda Brwsel yn gosod tariffau a chwotâu ar allforion Prydain – pe bai’r DU yn methu â chyflawni ei rhwymedigaethau rhyngwladol o dan y protocol.

Bwriad y cytundeb yw sicrhau nad oes ffin galed gyda’r Weriniaeth ond mae’n golygu bod Gogledd Iwerddon yn parhau i fod yn rhan o farchnad sengl yr UE, sydd yn ei dro yn golygu bod angen cynnal gwiriadau ar rai nwyddau sy’n dod o Brydain.

Ond dywedodd Maros Sefcovic nad oedd y DU yn gweithredu’r cytundeb yn llawn.