Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cynnal dadl yn y Senedd heddiw (dydd Mercher, Mehefin 9) yn galw ar Lywodraeth Lafur Cymru i wyrdroi cyflwyno’r parth perygl nitradau ledled Cymru.

Fis Ebrill, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai parth perygl nitradau yn cael ei gyflwyno – rhywbeth mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn honni fyddai’n “drychinebus i ffermwyr a’n cymunedau gwledig”.

Yn hytrach, mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw ar weinidogion Llafur i weithredu’r cynigion a gafodd eu cyflwyno gan is-grŵp Fforwm Rheoli Tir Cymru.

Byddai hyn yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â llygredd amaethyddol.

Roedd y fforwm yn cynnwys aelodau o sefydliadau megis undebau’r ffermwyr, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyswllt Amgylchedd Cymru a Llywodraeth Cymru.

‘Trychinebus’

“Mae penderfyniad Llywodraeth Cymru i weithredu parth perygl nitradau ledled Cymru yn drychinebus i ffermwyr a’n cymunedau gwledig,” meddai Samuel Kurtz, llefarydd materion gwledig y Ceidwadwyr Cymreig.

“Mae rheolau newydd Llafur yn anwybyddu’r wyddoniaeth ac mae eu rheoleiddiwr eu hunain – Cyfoeth Naturiol Cymru – wedi rhybuddio y bydd y rheoliadau’n gwaethygu ansawdd dŵr, sy’n sefyllfa annerbyniol yn y frwydr yn erbyn llygredd.

“Ar sawl achlysur yn ystod y pandemig, addawodd Llafur i ffermwyr Cymru na fyddai rheoliadau gan yr Undeb Ewropeaidd yn cael eu cyflwyno ond yn anffodus ni wnaethon nhw gadw at eu gair.

“Rydym yn gobeithio y bydd gweinidogion yn gwrando ar ein galwadau heddiw ac yn sicrhau bod pwyllgor perthnasol y Senedd yn adolygu’r rheoliadau hyn ar frys ac yn cyflwyno ei argymhellion.”

‘Diddymu’r ddeddfwriaeth’

“Mae angen inni weld dull sy’n seiliedig ar dystiolaeth i fynd i’r afael â llygredd dŵr sy’n gweithio gyda’n diwydiant amaethyddol yng Nghymru,” meddai James Evans, Aelod Ceidwadol o’r Senedd dros Frycheiniog a Sir Faesyfed.

“Pan gefais fy ethol ym mis Mai, fe wnes i addo mai fy ngweithred gyntaf fyddai ceisio diddymu’r ddeddfwriaeth parth perygl nitradau a’r ddadl hon yw’r cam cyntaf tuag at gyflawni’r nod hwnnw.”