Mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i fynnu mwy o bwerau i Gymru.
Daw hyn yn dilyn yr hyn mae’r Blaid yn ei hystyried yn gyfres o ymdrechion gan Lywodraeth San Steffan i danseilio datganoli.
Mewn dadl yn y Senedd heddiw (dydd Mercher, Mehefin 9), byddan nhw’n galw ar Lywodraeth Cymru i gychwyn y broses sydd wedi’i hamlinellu yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 i roi pwerau i’r Senedd dros faterion sydd wedi’u cadw yn San Steffan ar hyn o bryd.
Mae’r rhain yn cynnwys plismona a chyfiawnder, rheilffyrdd, lles, darlledu, prosiectau ynni, Ystâd y Goron, Deddf Cydnabod Rhywedd 2004 a’r pŵer i’r Senedd alw refferendwm rhwymol ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru.
Yn ôl Rhys ab Owen, llefarydd Plaid Cymru dros y Cyfansoddiad, mae yna “fandad bellach ar gyfer datganoli pwerau pellach sylweddol o San Steffan i Gymru” yn dilyn etholiadau’r Senedd ym mis Mai.
Dywed fod angen i Gymru “sefyll fel un, fel cenedl, i wrthwynebu’r ymdrechion i gipio pwerau sy’n dod gan Lywodraeth San Steffan” ac i fynnu’r pwerau sy’n ddyledus.
‘Mae San Steffan yn dod am Gymru’
“Fis diwethaf, pleidleisiodd pobol Cymru o fwy na 2:1 dros bleidiau a safodd ar lwyfan o fwy o bwerau i’r Senedd,” meddai Rhys ab Owen.
“Byddai’r bobol hynny’n cytuno bod yn rhaid i’r Senedd gael y pwerau cywir i wella bywydau ein dinasyddion ac i ailadeiladu fel Cymru wyrddach, decach a mwy llewyrchus ar ôl y pandemig Covid-19.
“Ond peidiwch â chamgymryd – mae San Steffan yn dod am Gymru.”
Dywedodd nad oes “dim amheuaeth bod llywodraeth Boris Johnson yn defnyddio’r setliad ôl-Brexit fel arf i gryfhau rheolaeth Llundain dros genhedloedd datganoledig y Deyrnas Unedig drwy gipio pwerau ac ymosod ar ein setliad datganoli”.
“Mae angen i ni sefyll fel un cenedl i wrthwynebu’r ymdrechion i gipio pwerau sy’n dod gan Lywodraeth San Steffan a mynnu’r pwerau yr ydym yn ddyledus iddynt,” meddai.