Mae menter newydd mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Cymru yn ceisio meithrin mentergarwch a hybu’r defnydd o’r Gymraeg mewn busnes.

Mae Menter yr Ysgolion, a gafodd ei chreu gan y cwmni datblygu economaidd annibynnol Menter a Busnes (MaB), yn darparu sgiliau a phrofiad busnes uniongyrchol i ysgolion.

Cafodd y fenter ei lansio yn 2019 fel rhan o ddathliadau pen-blwydd Menter a Busnes yn 30 oed.

Mae Menter a Busnes yn cynnig ystod eang o gymorth busnes dwyieithog a datblygu sgiliau i gwmnïau bach, canolig a mawr ledled Cymru, ynghyd â gwasanaethau ymgynghori busnes yn ehangach.

Trwy’r rhaglen Menter yr Ysgolion, mae’n gobeithio chwarae rhan weithredol wrth gynorthwyo Llywodraeth Cymru yn yr ymdrech i gyrraedd y nod o Filiwn o Siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Mae Menter a Busnes hefyd yn gyfrifol am ddarparu prosiectau Cywain, Cyswllt Ffermio a Menter Moch Cymru.

“Rwyf wedi bod yn gweithio gydag wyth dosbarth,” meddai Nerys Davies o dîm Cywain, sydd wedi bod yn gweithio gyda disgyblion Blwyddyn 9 yn Ysgol Uwchradd Glan Clwyd yn Llanelwy.

“Mae pob un wedi cael cymysgedd o wersi byw a gwersi wedi’u recordio gan staff Menter a Busnes ac entrepreneuriaid sydd wedi sefydlu busnesau llwyddiannus yn yr ardal.

“Mae’r holl sesiynau’n cael eu cynnal yn Gymraeg, felly nid yn unig maen nhw wedi hybu diddordeb mewn mentergarwch, ond maen nhw hefyd yn dangos y gall busnesau ffynnu yn Gymraeg.”

‘Ysbrydoledig’

Dywed Siân Alwen Newsham, Dirprwy Bennaeth Ysgol Glan Clwyd ei bod hi’n “teimlo ein bod wedi bod yn ffodus iawn i fod yn rhan o’r prosiect hwn”.

“Mae wedi ein galluogi i gynnal brwdfrydedd y disgyblion ac i’w hannog i ystyried eu dyfodol yng nghyd-destun gwahanol feysydd yn ystod y cyfnod pwysig hwn yn eu haddysg,” meddai.

“Roedd y sesiynau gyda chyflogwyr yn ysbrydoledig, a byddant yn bendant wedi gwneud i rai disgyblion feddwl yn wahanol am eu dewisiadau pwnc TGAU, ac rydym ni wedi gweld mwy o ddisgyblion eisiau astudio busnes.

“Yn bennaf oll, llwyddodd y cyflwyniadau i annog trafodaethau pellach yn y dosbarth ac yn y cartref ynglŷn â dyheadau disgyblion ar gyfer y dyfodol.

“Mae siarad am y dyfodol yn bendant wedi agor drysau i wireddu’r posibiliadau yn ystod yr amser hwn, sydd wedi bod yn gyfnod anodd a heriol iawn i’n pobol ifanc.”