Mae dadansoddiad o’r ffordd y gwnaeth pobol bleidleisio yn etholiadau’r Senedd fis diwethaf yn dangos mai Cymreictod yw un o brif resymau pleidleiswyr Llafur dros gefnogi’r blaid honno.

Cafodd gweminar ei chynnal gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru heddiw (9 Mehefin), gyda sylwebyddion a dadansoddwyr gwleidyddol yn trafod canfyddiadau cychwynnol ynghylch yr etholiad.

Roedd y gweminar hefyd yn trafod Etholiad yr Alban, gydag annibyniaeth a pholisïau’r SNP ymhlith y prif resymau fod pobol wedi pleidleisio drostyn nhw.

Yn ôl dadansoddiad Richard Wyn Jones, Jac Larner, a Paula Surridge, fe wnaeth y Ceidwadwyr gynnydd ar y rhestr ranbarthol yng Nghymru, ond ni chyrhaeddodd hynny eu disgwyliadau.

Wrth ddadansoddi canlyniadau’r Blaid Geidwadol, fe wnaeth Jac Larner gyfeirio at y ffaith eu bod nhw’n parhau i gael trafferth cadw gafael ar y pleidleiswyr sy’n eu cefnogi yn etholiadau San Steffan.

Llafur

Mae goruchafiaeth etholiadol y Blaid Lafur yng Nghymru yn parhau i fod yn uwch na goruchafiaeth y blaid fwyaf boblogaidd mewn unrhyw genedl is-wladwriaethol arall yn y byd, hyd y gŵyr y dadansoddwyr.

O gymharu â gweddill y Deyrnas Unedig, a’r hyn ddaeth yn amlwg o etholiadau lleol Lloegr, fe wnaeth plaid Mark Drakeford lwyddo i ennill pleidleisiau’r rhai bleidleisiodd dros Brexit yn ôl gan y Ceidwadwyr.

Dangosa’r dadansoddiad hefyd fod nifer o bobol a wnaeth bleidleisio dros Blaid Brexit yn Etholiad San Steffan yn 2019 wedi pleidleisio dros y Blaid Lafur eleni.

“Petai Keir Starmer wedi llwyddo i wneud yr un fath yn Lloegr byddai wedi cael ei addurno mewn rhosod cochion,” meddai Richard Wyn Jones.

Fe wnaeth y Blaid Lafur lwyddo i gadw pleidleisiau’r rhai sydd gan amlaf yn pleidleisio drostyn nhw yn etholiadau San Steffan, ond yn mynd tuag at Blaid Cymru yn y Senedd.

Roedd hyn yn bennaf yn sgil arweinyddiaeth Mark Drakeford a’r ffaith eu bod nhw mewn grym yn ystod y pandemig, a Chymreictod ymddangosiadol y blaid.

Hunaniaeth ac annibyniaeth

Yn nhermau hunaniaeth genedlaethol pleidleiswyr, mae’r dadansoddiad yn dangos fod cefnogaeth tuag at y Blaid Lafur yn dod gan rai sy’n teimlo’n Brydeinwyr, y rhai sy’n teimlo’n Gymry, a’r rhai sy’n teimlo’r ddau yn hafal.

Mae mwy o gefnogaeth ymhlith y rhai sy’n teimlo eu bod nhw’n Gymry, ond mae’r gwahaniaeth mewn cefnogaeth rhwng yr hunaniaethau yn fwy cydradd nag ar gyfer y pleidiau eraill.

Mae’r Ceidwadwyr yn denu llawer iawn mwy o bobol sy’n teimlo eu bod nhw’n Brydeinwyr na Chymry, a’r gwrthwyneb yn wir am Blaid Cymru, meddai’r dadansoddiad.

O edrych ar bleidlais Plaid Cymru, mae’r ymchwil yn awgrymu mai annibyniaeth oedd y mater pwysicaf i bleidleiswyr.

Er hynny, ymysg cefnogwyr annibyniaeth mae’r gefnogaeth tuag at y Blaid Lafur bron mor gryf â thuag at Blaid Cymru.

Gallu yn y Gymraeg

Wrth edrych ar allu pobol yn y Gymraeg a thueddiadau pleidleisio rhwng etholiadau 2016 a 2021, mae’r dadansoddiad yn dangos fod Plaid Cymru wedi denu llai o bobol sydd ddim yn medru’r Gymraeg o gwbl eleni.

Bu cynnydd eithaf sylweddol yng nghefnogaeth y rhai sydd ddim yn siarad Cymraeg tuag at y Ceidwadwyr.

Er hynny, tyfodd poblogrwydd Plaid Cymru ymysg rhai sy’n siarad ychydig o Gymraeg, a thyfodd cefnogaeth y garfan hon tuag at y Blaid Lafur hefyd.

Ymysg siaradwyr sy’n rhugl eu Cymraeg, bu cynnydd yn y gefnogaeth tuag at Blaid Cymru, cynnydd bach yn y gefnogaeth i’r Blaid Lafur, ac arhosodd y bleidlais Geidwadol yn gyson.

Ar draws pob grŵp, pleidleisidd mwy o bobol dros bleidiau eraill, a fyddai’n cynnwys UKIP, yn 2016 nag yn 2021, gyda’r gefnogaeth tuag at bleidiau eraill wedi disgyn i nesaf peth i ddim eleni.