Roedd penderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i roi cytundeb i gwmni ffrind Dominic Cummings, cyn-brif gynghorydd Boris Johnson, yn anghyfreithlon ac achosodd “duedd ymddangosiadol”, meddai barnwr.
Fe wnaeth ymgyrchwyr ddechrau her gyfreithiol yn erbyn Michael Gove yn sgil y penderfyniad i dalu mwy na £500,000 o arian trethdalwyr i gwmni ymchwil masnach ar ddechrau’r pandemig, gan gwestiynu rhan Dominic Cummings.
Dywedodd cyfreithwyr ar ran grŵp ymgyrchu’r Good Law Project fod Cummings eisiau i waith grwpiau ffocws a gwasanaethau cymorth cyfathrebu gael ei roi i gwmni oedd yn cael ei reoli gan ei ffrind.
Fe wnaeth Gove, a Cummings – a adawodd Downing Street tua diwedd 2020 – herio honiadau’r Good Law Project.
“Methiant i ystyried” cwmnïau eraill
Mae’r Barnwr O’Farrell wedi dyfarnu o blaid y Good Law Project, a dywedodd fod yna “fethiant i ystyried unrhyw asiantaeth ymchwil arall”.
Ystyriodd y barnwr y dadleuon mewn gwrandawiad rhithiol yn yr Uchel Lys yn Llundain ym mis Chwefror, gan ddod i’r dyfarniad heddiw (9 Mehefin).
Dywedodd y byddai sylwedydd gwybodus a theg wedi gwerthfawrogi fod angen brys i wneud ymchwil ar gyfathrebu effeithiol drwy grwpiau ffocws er mwyn ymateb i’r argyfwng.
Dywedodd y Barnwr hefyd y byddai sylwedydd gwybodus a theg wedi gwerthfawrogi fod Cummings “mewn safle unigryw”, ag ystyried ei brofiad a’i arbenigedd, er mwyn dod i gasgliad sydyn ar y sefydliad fyddai wedi gallu cynnig y “gofynion brys” hynny orau.
Ni wnaeth cysylltiadau proffesiynol a phersonol Cummings gyda chwmni Public First ei atal rhag gwneud asesiad diduedd “yn yr ystyr hon”.
“Fodd bynnag,” ychwanegodd y Barnwr, “byddai methiant y diffinydd i ystyried unrhyw asiantaeth ymchwil arall, drwy gyfeirio at brofiad, arbenigedd, argaeledd, neu gapasiti, yn arwain unrhyw sylwedydd gwybodus a theg i ddod i’r casgliad fod yna bosibilrwydd gwirioneddol, neu beryg gwirioneddol, fod yr un sy’n gwneud penderfyniadau yn unochrog”.
Ychwanegodd fod gan y Good Law Project hawl i’r datganiad fod y penderfyniad, a gafodd ei wneud ar 5 Mehefin 2020, yn “dangos tuedd ymddangosiadol, ac yn anghyfreithiol”.
“Llywodraeth er ffrindiau”
“Nid yw hwn yn Llywodraeth er lles cyhoeddus – mae’n Llywodraeth ar gyfer ffrindiau da’r Blaid Geidwadol,” meddai cyfarwyddwr y Good Law Project, Jo Maugham, wedi’r dyfarniad.
“Dydyn ni just ddim yn deall sut gall y Prif Weinidog redeg Cabinet sy’n gweithredu heb ystyriaeth iawn i’r gyfraith na gwerth arian cyhoeddus.”
“Dim awgrym o duedd gwirioneddol”
“Rydyn ni’n croesawu dyfarniad y llys ein bod ni angen gwobrwyo’r cytundeb ar sail brys ofnadwy wrth ymateb i bandemig byd-eang na welwyd ei debyg,” meddai llefarydd ar ran Swyddfa’r Cabinet.
“Fe wnaeth y Barnwr gydnabod yr amgylchiadau cymhleth iawn yn ystod anterth y pandemig, ac y byddai methiant i gyflwyno gohebiaeth effeithlon wedi peryglu iechyd cyhoeddus.
“Mae’r dyfarniad yn ei gwneud hi’n glir nad oedd dim awgrym o duedd gwirioneddol, ac na chafodd y penderfyniad i wobrwyo’r cytundeb ei wneud yn sgil unrhyw gysylltiadau personol na phroffesiynol.”
Dywedodd eu bod nhw wedi mynd i’r afael â’r “materion gweithrediadol” a gafodd eu codi gan y barnwr drwy sefydlu adolygiad annibynnol i’r broses.
“Balch o’r gwaith”
“Rydyn ni’n hynod falch o’r gwaith y gwnaethom ni yn ystod dyddiau cynnar y pandemig, a wnaeth helpu i achub bywydau,” meddai llefarydd ar ran cwmni Public First.
“Fe wnaeth y barnwr wrthod rhan fwyaf o honiadau’r Good Law Project, ac ni wnaeth ddarganfod tueddiad gwirioneddol wrth wobrwyo’r gwaith, nag unrhyw broblemau gyda chyflymder na graddfa’r gwobrwyo.
“Yn hytrach, fe wnaeth y barnwr ddarganfod fod prosesau mewnol gwan wedi caniatáu tuedd ymddangosiadol.
“Ni wnaeth y barnwr farnu Public First o gwbl yn y dyfarniad.”