Nid yw’r trafodaethau diweddaraf rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd ar Brotocol Gogledd Iwerddon wedi esgor ar gytundeb.

Cynhaliwyd y trafodaethau yng nghyd-destun tensiynau parhaus ynghylch archwiliadau ar nwyddau sy’n symud i Ogledd Iwerddon o weddill y Deyrnas Unedig.

O dan delerau’r Protocol – sydd â’r bwriad o sicrhau nad oes dychwelyd i ffin galed gyda Gweriniaeth Iwerddon – mae Gogledd Iwerddon yn parhau i fod yn rhan o farchnad sengl yr Undeb Ewropeaidd, sy’n gofyn am wiriadau ar rai nwyddau sy’n dod o weddill y Deyrnas Unedig.

Fodd bynnag, mae wedi arwain at densiynau, yn enwedig ymhlith cymunedau Unoliaethol, sy’n ofni ei fod yn gwanhau lle Gogledd Iwerddon yn y Deyrnas Unedig.

Heddiw, daeth y Gweinidog Brexit, yr Arglwydd Frost, ac is-lywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Maros Sefcovic, â’u trafodaethau i ben yn Llundain am y tro, heb unrhyw arwydd o ddatblygiad.

Cyn y trafodaethau rhybuddiodd yr Arglwydd Frost fod amser yn brin i ddod i gytundeb a galwodd ar yr Undeb Ewropeaidd i fabwysiadu dull “synnwyr cyffredin” wrth gynnal archwiliadau ar nwyddau sy’n symud o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon.

Amynedd yn brin

Yn ogystal, gwrthododd yr Arglwydd Frost ddiystyru’r posibilrwydd y gallai’r Deyrnas Unedig ohirio gweithredu gwiriadau ar gigoedd oer heb gytundeb yr Undeb Ewropeaidd. Mae’r gwiriadau i fod i gychwyn ar ddiwedd y mis.

Yn ei dro, rhybuddiodd Maros Sefcovic y byddai Brwsel yn gweithredu’n “gadarn ac yn bendant” pe bai’r Deyrnas Unedig yn penderfynu gohirio’r gwiriadau.

“Pe bai’r Deyrnas Unedig yn cymryd camau unochrog pellach dros yr wythnosau nesaf, ni fyddwn yn swil wrth ymateb yn gyflym, yn gadarn, ac yn bendant, i sicrhau bod y Deyrnas Unedig yn cadw at ei rhwymedigaethau rhyngwladol.”

Dywedodd fod yr Undeb Ewropeaidd eisoes wedi dangos “hyblygrwydd anarferol” wrth ymestyn y cyfnod gras sydd ynghlwm wrth Brotocol Gogledd Iwerddon.

Dywedodd Mr Sefcovic hefyd fod amynedd yr Undeb Ewropeaidd gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig “yn brin iawn, iawn”.

Awgrymodd nad oedd y Deyrnas Unedig yn llwyr ddeall goblygiadau ei chytundeb gyda’r Undeb Ewropeaidd pan darwyd y fargen.

“Efallai na allai ein partneriaid Prydeinig ragweld yn llawn ganlyniadau’r Brexit y maent wedi’i ddewis, beth fyddai’n ei olygu i adael undeb y Farchnad Sengl a Thollau…” meddai.

“Trafodaeth onest”

Yn dilyn tair awr a hanner o drafodaethau, dywedodd yr Arglwydd Frost eu bod wedi cael “trafodaeth onest” ond na fu “unrhyw ddatblygiadau” o ran Protocol Gogledd Iwerddon.

“Y broblem sydd gennym yw bod y protocol yn cael ei weithredu mewn ffordd sy’n achosi aflonyddwch yng Ngogledd Iwerddon a chawsom drafodaethau eithaf gonest am y sefyllfa honno heddiw,” meddai.

“Yr hyn y mae’r Undeb Ewropeaidd yn mynnu yw y dylem weithredu’r protocol mewn ffordd hynod o bur. Y realiti yw ei bod yn ddogfen gytbwys iawn sydd wedi’i chynllunio i gefnogi’r broses heddwch ac ymdrin â’r wleidyddiaeth sensitif iawn yng Ngogledd Iwerddon.

“Yr hyn y mae gwir angen i ni ei wneud nawr yw dod o hyd i atebion ar frys sy’n cefnogi Cytundeb Gwener y Groglith Belfast, yn cefnogi’r broses heddwch yng Ngogledd Iwerddon, ac yn caniatáu i bethau ddychwelyd i normal.”

Fodd bynnag, dywedodd yr Arglwydd Frost fod y ddwy ochr wedi cytuno i barhau i siarad mewn ymdrech i sicrhau cam ymlaen.

Mynnodd yr Arglwydd Frost fod amser o hyd i ddod i gytundeb cyn i’r cyfnod gras presennol ar gyfer cigoedd oer ddod i ben, ond dywedodd y bydd y Deyrnas Unedig yn ystyried “pob opsiwn” os yw hynny’n amhosibl.

“Mae’r Prif Weinidog wedi bod yn eithaf clir na all weld rheswm pam na ddylem ni allu gwerthu selsig Prydain yng Ngogledd Iwerddon,” meddai ffynhonnell o Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Nid oes risg i fioddiogelwch.

“Dydyn ni ddim yn gweld pam y dylai fod problem gyda hynny.”

Anrhydeddu ymrwymiadau

Yn y cyfamser, mae Dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon wedi herio Llywodraeth y Deyrnas Unedig i “anrhydeddu ei hymrwymiadau”.

Dywedodd Michelle O’Neill ei bod hi’n teimlo eu bod nhw ar “groesffordd”, er bod cynnydd wedi’i wneud mewn rhai meysydd yn ystod y cyfarfod, gan gynnwys ar gyflenwi meddyginiaethau o weddill y Deyrnas Unedig.

Yn y cyfamser, dywedodd y Prif Weinidog Arlene Foster, sydd ar fin gadael ei swydd, fod y “cyfarfod yn hynod ragweladwy o ochr yr Undeb Ewropeaidd”.

Mae’r DUP, sy’n blaid unoliaethol, yn ceisio perswadio’r Deyrnas Unedig i ddileu’r Protocol yn gyfan gwbl.

Bu gwrthdystiadau yn erbyn y Protocol gan Unoliaethwyr yn ddiweddar, ac maen nhw’n gwrthwynebu’r gwiriadau ar nwyddau sy’n cyrraedd porthladdoedd o weddill y Deyrnas Unedig hefyd.

O ran cyfyngiadau posib ar gyflenwadau meddyginiaeth i Ogledd Iwerddon o weddill gwledydd y Deyrnas Unedig pan ddaw’r cyfnod gras i ben ar ddiwedd 2021, dywedodd Michelle O’Neill eu bod nhw wedi bod yn trafod y mater.

“Rwy’n credu bod pob ochr yn barod i wneud hynny, a byddwn yn gobeithio fod ateb i’w gael, ond mae mwy o waith i’w wneud.”

Dywedodd Michelle O’Neill, sy’n perthyn i blaid Sinn Fein, ei bod hi wedi dweud yn glir wrth Lywodraeth y Deyrnas Unedig y byddai cytundeb gyda’r Undeb Ewropeaidd ar safonau milfeddygol, hyd yn oed un dros dro, yn dileu’r angen am nifer o’r gwiriadau newydd.

Ychwanegodd nad yw pawb yng Ngogledd Iwerddon yn credu y dylid cael gwared ar y Protocol.

“Cymerais y cyfle i ddweud wrth Gomisiwn yr Undeb Ewropeaidd, a David Frost, fod y Protocol wedi cynnig cyfleoedd, nid yw’n cynnig gwarchodaeth i’r gymuned fusnes leol yma ond mae e’n cynnig cyfleoedd yn yr ystyr bod gennym ni fynediad at y farchnad Brydeinig a marchnad yr Undeb Ewropeaidd.”

“Hanfodol”

Daw hyn wrth i Gynghorydd Diogelwch Cenedlaethol Joe Biden, Jake Sullivan, ddweud nad yw’r Unol Daleithiau am weld unrhyw gamau a fyddai’n peryglu’r heddwch yng Ngogledd Iwerddon.

Cyn Uwchgynhadledd y G7, dywedodd Jake Sullivan, mai mater i Lywodraeth y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd yw dod o hyd i ffordd gytûn er mwyn symud ymlaen.

“Mae’r Arlywydd Biden yn credu, ac wedi dweud, bod Protocol Gogledd Iwerddon, fel rhan o’r cytundeb rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd, yn hanfodol i sicrhau bod ysbryd, addewid a dyfodol Cytundeb Dydd Gwener y Groglith yn cael ei ddiogelu,” meddai Jake Sullivan wrth y BBC.