Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i weithio ar frys er mwyn mynd i’r afael ag argyfwng tai haf Cymru, yn ôl y Gweinidog Addysg a’r Gymraeg newydd.

Bu Jeremy Miles yn Gwnsler Cyffredinol ac yn Weinidog Pontio Ewropeaidd cyn hyn, ac mae yn dweud bod ganddo dair blaenoriaeth yn ei rôl newydd.